Croeso i gampfa Canolfan Hamdden Llantrisant, a gafodd ei hadnewyddu a'i moderneiddio yn ddiweddar. Erbyn hyn, mae'r ganolfan yn un o'r lleoliadau hamdden mwyaf poblogaidd yn Rhondda Cynon Taf, diolch i'r cymysgedd ardderchog o gyfarpar, staff cyfeillgar a gwybodus a'r dosbarthiadau.
**Sesiynau cynnar o 6.15am o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer Aelodau Hamdden am Oes ***
Mae gan y gampfa 95 o orsafoedd, yr offer diweddaraf ar gyfer ymarferion cardio ac ymwrthiant, offer hyfforddi ymarferol a dewis da o bwysau rhydd.
Prisoedd
Aelodau Hamdden am Oes AM DDIM
Talu wrth ddefnyddio - £6.00
Gostyngiadau - £3.60
Sesiwn sefydlu: Am ddim
Cewch chi fwynhau cynifer o'n dosbarthiadau ag yr hoffech chi, mor aml ag yr hoffech chi, gyda'ch Aelodaeth Hamdden am Oes. Mae'r aelodaeth hefyd yn rhoi mynediad i chi ar ein system cadw lle ar-lein, fel bod modd i chi gadw lle ar eich hoff ddosbarth saith niwrnod ymlaen llaw. Os ydych chi'n dewis i dalu wrth ddefnyddio, cewch chi gadw lle ar ddosbarth ar fore y dosbarth.
Croeso i unrhyw un sy'n 11 oed neu'n hŷn ddefnyddio'r gampfa. O ganlyniad i resymau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch, rhaid ichi fod yn 16 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r pwysau rhydd. Does dim hawl gyda gwylwyr i fod yn y gampfa.