Oherwydd cyfyngiadau diogelwch yn sgil Covid-19, mae'r ystafell iechyd ar gau am gyfnod amhenodol.
Mae ein hystafell iechyd yn cynnig lle arbennig i ymlacio ar ôl cadw'n heini, neu i ddianc a magu nerth. Mae gan yr ystafell iechyd sawna, ystafell stêm, bath sba a lolfa. Trwy fanteisio ar y cyfleusterau yma yn rheolaidd, byddwch chi'n teimlo'n well ac yn sicrhau cydbwysedd i'r meddwl a'r corff.
Mae Canolfan Hamdden Tonyrefail yn falch o gynnig y cyfleusterau ystafell iechyd canlynol:
- Sawna
- Ystafell stêm
- Bath sba
- Lolfa
Mae modd i chi hefyd fwynhau nofio am ddim fel rhan o'r mynediad i'r ystafell iechyd (yr un ymweliad yn unig, yn amodol ar ba mor llawn yw'r pwll) felly cadwch eich derbynneb ar gyfer y staff ar ochr y pwll.
PRISOEDD
Aelodau Hamdden am Oes AM DDIM
Talu wrth ddefnyddio £4.35 (consesiynau £2.60)
Nodwch: mae'r ystafell iechyd yn gyfleuster cymysg
Does dim angen cadw lle ymlaen llaw. Mae disgwyl i chi wisgo gwisg nofio yn ystod pob sesiwn. Dim plant dan 16 oed i ddefnyddio'r Ystafell Iechyd. Mae sesiynau wedi'u cyfyngu at awr a hanner.