Mae ystod eang o gampfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd dan do a phyllau nofio Hamdden am Oes bellach ar agor, wrth i'r gwasanaeth barhau i ailagor.
Mae campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau dan do nawr ar agor ar draws wyth o'r naw canolfan hamdden. Yn anffodus, mae Llanilltud Faerdref yn parhau i fod ar gau, gan fod siâp yr adeilad yn golygu nad oes modd bodloni'r mesurau cadw pellter cymdeithasol a diogelwch gofynnol.
Mae staff Hamdden am Oes hefyd yn parhau i weithio gyda chyrff chwaraeon a Llywodraeth Cymru i gyflwyno chwaraeon dan do. Mae modd i chwaraewyr sboncen unigol ddychwelyd i ganolfannau hamdden ar gyfer ymarfer a hyfforddi - naill ai ar eu pennau eu hunain neu gyda hyfforddwr y tu allan i'r cwrt er mwyn cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Dyw'r ystafelloedd iechyd, gwersi nofio (oedolion a phlant), deifio, gwersi achub bywyd, partïon plant a'r sesiynau chwarae meddal ddim ar gael. Bydd diweddariad pellach unwaith y bydd cyfyngiadau wedi'u llacio a'u codi a phan fydd modd i Hamdden am Oes ddarparu'r rhain yn ddiogel.
Mae miloedd o gwsmeriaid yn defnyddio'r Ap Hamdden am Oes a'r wefan i gadw lle ar sesiynau yn y gampfa, y pwll nofio a'r dosbarthiadau ffitrwydd dan do wrth i staff hamdden barhau i weithio'n ddiflino i ddarparu'r gwasanaethau mae cwsmeriaid eu heisiau mewn modd diogel.
Mae Hamdden am Oes wedi addasu'n dda i'w ffordd newydd o weithredu, ac yn cynnig nifer o wasanaethau poblogaidd gan hefyd gadw cwsmeriaid, staff a'r gymuned ehangach yn ddiogel gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol, mesurau glanhau offer ac ystafelloedd trylwyr a threfniadau ar gyfer cadw lle ar ddosbarthiadau ymlaen llaw a gwneud taliadau digyswllt lle bo hynny'n bosibl.
Mae oriau agor pob canolfan hamdden yn dra gwahanol i'r rhai cyn y cyfnod clo ac, wrth gyfygniadau lacio, mae'r gwasanaeth yn addasu ac yn ymestyn, ac o ganlyniad mae'r oriau agor yn parhau i newid.
Mae modd gweld oriau agor diweddaraf y ganolfan isod, neu drwy'r ap.
Mae amserlen y gampfa, y dosbarthiadau ffitrwydd a'r sesiynau nofio a oedd ar gael cyn y cyfnod clo hefyd wedi newid yn sylweddol, ac, unwaith eto, mae modd dod o hyd i'r rhain drwy'r tudalennau hamdden ar y we neu'r ap.
Er mwyn cadw at ganllawiau diogelwch, does dim cyfleusterau cawod nac ystafell newid ar gael yn ein canolfannau, felly bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i hyfforddi / nofio.
Rhaid cadw lle ar gyfer pob sesiwn yn y gampfa a gwersi yn y pwll nofio ymlaen llaw. Mae modd i aelodau Hamdden am Oes wneud hyn hyd at saith diwrnod ymlaen llaw dros y we neu drwy'r ap.
Rhaid i'r rheiny sy'n dewis talu fesul sesiwn gadw lle ymlaen llaw, ac mae modd gwneud hynny drwy ffonio'r ganolfan hamdden i drefnu a thalu hyd at 24 awr ymlaen llaw.
Hoffem atgoffa cwsmeriaid ei bod hi'n gyfnod heriol i bawb ac, wrth i'r gwasanaeth ddechrau ailagor yn raddol, fe fydd yn wasanaeth gwahanol iawn i'r un gafodd ei gau ym mis Mawrth 2020. Rydyn ni'n gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad parhaus ein cwsmeriaid.
Cafodd holl gynlluniau aelodaeth Hamdden am Oes eu rhewi cyn gynted ag y cafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno ac mae'r cynlluniau hynny bellach wedi'u hadfer i alluogi cwsmeriaid i gadw lle ar ddosbarthiadau ar-lein.
Mae modd i gwsmeriaid nad ydyn nhw'n teimlo'n barod i ddychwelyd i'r ganolfan hamdden ofyn i'w haelodaeth aros wedi'i rewi drwy e-bostio aelodaethhamdden@rctcbc.gov.uk neu drwy gysylltu â'u canolfan hamdden leol. Dyma hefyd atgoffa aelodau o'r sesiynau hyfforddi mae modd i chi eu gwneud gartref, sy'n cael eu rhannu gan hyfforddwyr Hamdden am Oes drwy'r ap.
Rheolau wrth ailddechrau'r gwasanaeth
- Rhaid trefnu cadw lle ar gyfer gweithgareddau ymlaen llaw drwy'r ap, drwy'r tudalennau hamdden ar y we neu drwy ffonio'r ganolfan.
- Peidiwch â chyrraedd y ganolfan heb eich bod chi wedi cadw lle. Bydd dim modd i chi ddod i'r dosbarth heb gadw lle.
- Mae modd i aelodau Hamdden am Oes gadw lle ar gweithgaredd o'u dewis hyd at saith diwrnod ymlaen llaw.
- Mae modd i bobl nad ydyn nhw'n aelodau drefnu ymuno â gweithgaredd o'u dewis hyd at 24 awr ymlaen llaw.
- Cofiwch, os ydych chi wedi cadw lle ar ddosbarth ac yn methu mynd, rhowch wybod i ni er mwyn bod modd i ni ei gynnig i rywun arall.
- Mae'r amserlenni'n wahanol iawn i fel roedden nhw cyn y cyfnod clo. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid, staff a'r gymuned ehangach wrth i ni gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a sicrhau bod modd i ni lanhau'n drylwyr rhwng sesiynau.
- Wrth i fesurau'r cyfnod clo barhau i lacio ac wrth i ganllawiau newid, rydyn ni'n diwygio ac yn ymestyn y cynnig Hamdden am Oes. Mae hyn yn golygu bod yr oriau agor a'r sesiynau sydd ar gael yn y gampfa a'r gwersi yn y pwll nofio yn parhau i newid. Chwiliwch am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma neu ar ein AP
- Mae cawodydd ac ystafelloedd newid yn dal i fod ar gau ym mhob canolfan. Dewch i'r gampfa yn eich dillad nofio / hyfforddi.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn hoffi ac yn dilyn eich canolfan hamdden leol neu'ch hoff ganolfan ar Facebook i gael newyddion diweddaraf y ganolfan honno.
- Mae staff Hamdden am Oes wedi gweithio'n ddiflino trwy gydol y cyfnod clo - cafodd y staff eu hadleoli i gynorthwyo'r gymuned i ddosbarthu bwyd, meddyginiaethau a gofal - ac maen nhw'n parhau i weithio i ddarparu'r gwasanaethau y mae cwsmeriaid eu heisiau. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cydweithrediad.
Mae amserlenni oriau agor (gan gynnwys oriau agor gŵyl y banc) eisoes ar y dudalen
Mae fideo cadw pellter cymdeithasol / glanhau wedi'i fewnosod ar y dudalen.
Dyma hefyd argymell yr isod:
Mae amserlenni dosbarthiadau Hamdden am Oes yn wahanol iawn i fel oedden nhw cyn y cyfnod clo, ac maen nhw'n parhau i newid yn wythnosol.
Mae modd dod o hyd i'r holl ddosbarthiadau, amseroedd, lleoliadau a dolenni i gadw lle ar yr AP.