Skip to main content

Diweddariad - Hamdden am Oes

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw bod modd i gampfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd dan do a phyllau nofio ddechrau ailagor o 10 Awst yn newyddion gwych i aelodau Hamdden am Oes. Rydyn ni'n gwybod eich bod yn awyddus i ddychwelyd i'n canolfannau.

Wrth ystyried y dyddiad wedi'i gadarnhau a chanllawiau, bydd y Cyngor yn parhau â'i waith paratoi i ailagor canolfannau a rhoi gwybod am ddatblygiadau i aelodau.

Yn y cyfamser, rydyn ni'n annog defnyddwyr ein cyfleusterau hamdden i lawrlwytho'r AP a'n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf. Cewch chi hefyd fanylion am ddosbarthiadau ffitrwydd yn yr awyr agored ac ymarferion Hamdden am Oes mae modd eu gwneud gartref wrth aros am y newyddion am ailagor. 

Mae carfan Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynllunio a pharatoi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru wrth i'r cyfyngiadau lacio ac wrth i bobl fynd ati i ddychwelyd at wasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw mewn ffordd ddiogel.

Dechreuodd gwaith paratoi ym mhob un o'n canolfannau Hamdden am Oes ychydig wythnosau yn ôl. Yn rhan o'r gwaith yma, roedd rhaid ystyried sut mae modd (ac os oes modd) ailagor campfeydd, stiwdios dosbarthiadau ffitrwydd, pyllau nofio a derbynfeydd wrth lynu at fesurau cadw pellter cymdeithasol, a hynny ar ôl cael cadarnhad ei bod hi'n ddiogel gwneud hyn.

Mae'r gwasanaeth wedi parhau i gefnogi ei aelodau trwy'r cyfyngiadau symud trwy rewi holl daliadau aelodaethau pan gafodd ei chadarnhau y byddai rhaid i ganolfannau gau. Mae'r holl aelodaethau wedi'u rhewi o hyd.

Mae hyfforddwyr ffitrwydd a rheolwyr campfeydd proffesiynol a chymwysedig Hamdden am Oes wedi cynnal, trwy AP poblogaidd Hamdden am Oes a'r cyfryngau cymdeithasol, ystod eang o ymarferion i'w gwneud yn y cartref ac yn yr ardd, llwybrau rhedeg a beicio ac ysbrydoliaeth o ran gweithgareddau ffitrwydd i'r teulu.

Cyfrannodd gweithwyr eraill at helpu'r gymuned ehangach trwy ddosbarthu parseli bwyd a moddion i bobl sy'n agored i niwed a oedd yn gwarchod gartref, neu drwy weithio mewn canolfannau hamdden a oedd yn fannau casglu banciau bwyd a chanolfannau cymuned dros dro.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Mae staff Hamdden am Oes yn parhau i weithio, a hynny yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus, i baratoi at ailagor canolfannau hamdden o 10 Awst.

“Rydw i'n falch o'r ffordd mae Hamdden am Oes wedi parhau i addasu a chyflawni fel gwasanaeth yn ystod y cyfnod heriol yma. Mae cannoedd o bobl wedi lawrlwytho'r AP yn ystod y cyfyngiadau symud i fwynhau ymarferion gartref wedi'u cynnal gan hyfforddwyr Hamdden am Oes. Yn ogystal â hynny, mae'r dosbarthiadau newydd yn yr awyr agored wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

“Rydyn ni'n gwybod bod ein haelodau Hamdden am Oes yn awyddus i ddychwelyd ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl. Serch hynny, rhaid i ni wneud hynny yn ôl amserlen ac mewn modd sy'n ddiogel i bawb. Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, byddwn ni'n rhannu manylion pellach o ran ailagor ein canolfannau hamdden a phyllau nofio dros y dyddiau nesaf.”

Lawrlwythwch AP hawdd Hamdden am Oes am ddim am y newyddion diweddaraf. Cewch chi hefyd fanteisio ar yr ystod o ymarferion i'w gwneud gartref a gemau a gweithgareddau ffitrwydd i'r teulu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Hamdden am Oes ar Twitter, Facebook ac Instagram – cewch chi hefyd chwilio am eich canolfan hamdden leol/canolfan hamdden o'ch dewis a'i dilyn ar Facebook.

Os nad oes gyda chi'r AP ond hoffech chi ymuno â dosbarth yn yr awyr agored, ffoniwch Hamdden am Oes rhwng 10.30am a 12.30pm bob dydd ar 01685 870111.

 

Pwyntiau allweddol i gwsmeriaid

 

  1. Byddwn ni'n parhau i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus ar bob adeg.
  2. Mae pellter cymdeithasol a mesurau hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu yn flaenoriaeth o hyd. Mae staff yn gweithio mewn canolfannau hamdden yn barod i sicrhau bod arwyddion a marciau pellter cymdeithasol, mannau golchi/diheintio dwylo a sgriniau diogelwch yn eu lle i amddiffyn staff a chwsmeriaid. Bydd gwiriadau tymheredd yn cael eu cynnal cyn mynd i mewn.
  3. Bydd oriau agor pob canolfan hamdden yn newid i adlewyrchu'r canllawiau newydd a'r mesurau glanhau a diheintio ychwanegol sydd eu hangen i gynnal amgylchedd diogel.
  4. Bydd angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer pob gweithgaredd, gan gynnwys y gampfa, a bydd sesiynau'n cael eu trefnu i alluogi staff i ddiheintio'r amgylchedd rhwng sesiynau.
  5. Byddwn ni, lle bo modd, yn prosesu taliadau'n electronig – trwy'r AP, y wefan a thaliadau di-gyffwrdd â cherdyn.
  6. Mae neuaddau canolfannau hamdden ac ystafelloedd ychwanegol mewn rhai canolfannau wedi'u haildrefnu fel bod modd i ragor o gwsmeriaid ddefnyddio offer y gampfa wrth fodloni canllawiau'r Llywodraeth.
  7. Mae ardaloedd cymunedol fel yr ystafelloedd newid a chawodydd ar gau o hyd. Bydd angen i gwsmeriaid ddod i'r ganolfan yn barod i hyfforddi.
  8. Bydd gwybodaeth o ran aelodaethau yn cael ei rhannu yn ystod y dyddiau nesaf.
  9. Caiff cwsmeriaid yr wybodaeth ddiweddaraf trwy fynd ar yr AP, www.rctcbc.gov.uk/hamdden neu'r cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter ac Instagram).