Gwiriwch amserlenni, chwiliwch am ddosbarthiadau, cadwch le ar sesiynau a llawer yn rhagor gyda’r ap Hamdden am Oes sydd ar ei newydd wedd.
Bydd modd i gwsmeriaid weld rhagor o nodweddion, rhagor o opsiynau rhyngweithio a dyluniad newydd gwych pan fydd yr ap yn cael ei ddiweddaru ar 1 Raghfyr.
Does dim angen i'r dros 10,000 o gwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho'r ap yn barod wneud unrhyw beth – bydd y broses ddiweddaru'n awtomatig a bydd modd manteisio ar gyfleoedd hamdden ar eich dyfeisiau.
Mae defnyddio ap Hamdden am Oes yn caniatáu i gwsmeriaid reoli eu taith ffitrwydd a lles gyfan. Mae modd i chi ei ddefnyddio ar gyfer:
- Bwrw golwg ar amserlenni'r gampfa, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd
- Cadw lle ar sesiynau yn y gampfa, y pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chyrtiau chwaraeon (hyd at saith diwrnod ymlaen llaw os ydych chi'n aelod Hamdden am Oes)
- Gwirio argaeledd dosbarthiadau a bwrw golwg ar y rhestri aros
- Talu am eich dosbarthiadau a sesiynau talu wrth fynd - gan ddefnyddio taliadau ar-lein neu eich Waled Ddigidol Di-Arian Parod
- Derbyn hysbysiadau am y newyddion a chynigion diweddaraf
- Rheoli a chadw cofnod o'r sesiynau rydych chi wedi cadw lle arnyn nhw
- Prynu Aelodaeth Hamdden am Oes
- Prynu unrhyw docynnau neu gynigion arbennig a llawer yn rhagor!