Skip to main content

Telerau ac amodau

DIFFINIADAU

  • Mae cyfeiriadau at ' ni' neu 'ein' yn cyfeirio at Gyngor Bwrdeistref Sirol RhCT. Mae cyfeiriadau at 'chi' ac 'eich' yn cyfeirio at yr unigolyn sy'n llenwi'r Ffurflen Gais.

  • Ystyr y 'Cytundeb' yw'r cytundeb aelodaeth sy'n ymwneud â'r Cynllun yr ymrwymir iddo rhyngoch chi a ni, sy'n cynnwys y Ffurflen Gais a'r Telerau ac Amodau yma.

  • Ystyr y 'Ffurflen Gais' yw'r ffurflen gais rydych chi'n ei llenwi cyn dod yn aelod o'r Cynllun.

  • Ystyr y 'Cynllun' yw  Cynllun Aelodaeth  Hamdden am Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT, sy'n cynnwys y manteision a'r gostyngiadau rydyn ni'n eu cynnig yn ein Canolfannau Hamdden.

  • Ystyr y 'Costau Aelodaeth' yw'r cyfanswm sydd i'w gasglu'n fisol neu'n flynyddol ar sail barhaol. Mae'r taliad i'w wneud naill ai ymlaen llaw ar ddechrau cyfnod yr aelodaeth, neu drwy randaliadau misol ar ddiwrnod cyntaf pob mis (Aelodaeth 12 mis Debyd Uniongyrchol yn unig).

MANYLION Y CYNLLUN AELODAETH

  • Rydych chi'n cytuno i ymrwymo i’r Cytundeb.

  • Bydd y swm sy'n daladwy fesul pob mis o dan y cynllun yn sefydlog dros gyfnod y Cytundeb.

  • Efallai y bydd y swm misol sy'n daladwy gennych chi o dan y Cynllun yn newid yn ystod cyfnod y Cytundeb yn unol ag unrhyw gynnydd blynyddol mewn prisiau gan yr Awdurdod.

  • Rhaid i gyfnod y Cytundeb rhyngoch chi a ni fod am naill ai un mis neu 12 mis, gan ddibynnu ar hyd yr aelodaeth a'r dull talu a ddewiswch.

  • Bydd pob un o'r holl aelodaethau drwy ddebyd uniongyrchol yn gofyn am daliad pro rata ymlaen llaw ar gyfer y mis nesaf er mwyn sefydlu'r aelodaeth.

  • Bydd taliadau Debyd Uniongyrchol ar gyfer yr aelodaeth dreigl fisol cyfnod amhenodol, ac ar gyfer yr aelodaeth cyfnod penodol 12 mis, fel ei gilydd, yn cael eu cymryd ar ddiwrnod cyntaf pob mis calendr, neu yn fuan wedi hynny.  Bydd aelodaethau drwy arian parod, boed yn flynyddol neu'n fisol, yn cael eu talu drwy naill ai arian parod, cerdyn, neu siec ar ddechrau cyfnod y cytundeb aelodaeth.

  • Caiff cost pob aelodaeth ei phennu’n sefydlog ar gyfer cyfnod y cytundeb ar gyfer y cyfryw aelodaeth.

  • Mewn amgylchiadau eithriadol (megis newid sylweddol annisgwyl mewn amgylchiadau personol, anaf neu salwch/afiechyd a fyddai'n cyfyngu ar eich gallu i ddefnyddio'r cyfleusterau), byddwn ni'n caniatáu dirymu'r cytundeb aelodaeth yn gynnar cyn diwedd y cyfnod sydd wedi’i gytuno.  Rhaid i bob un o'r holl geisiadau am ddirymu yn gynnar fod mewn ysgrifen, ac fe gaiff pob cais unigol ei ystyried fesul achos. Fe gaiff unrhyw daliad sydd wedi'i wneud ymlaen llaw ar gyfer cyfnod yr aelodaeth ei ad-dalu ar sail pro rata.

  • Rydych chi'n cytuno i gydymffurfio â phob un o holl bolisïau, rheolau, rheoliadau, a gweithdrefnau ein Canolfannau Hamdden.

AELODAETH O'R CYNLLUN

  • Byddwch chi, a chithau’n un o aelodau'r Cynllun, yn derbyn cerdyn Hamdden am Oes. Mae  cerdyn aelodaeth y Cynllun  yn ddilys dros gyfnod y Cytundeb ac nid yw'n drosglwyddadwy.

  • Bydd yn ofynnol i dynnu ffotograff electronig ohonoch chi ar eich ymweliad cyntaf. Bydd hwn yn cael ei gadw ar ein system aelodaeth electronig yn rhan o'ch cofnod er mwyn sicrhau nad oes modd i neb arall ond chi yn unig ddefnyddio'r cerdyn, a bod eich aelodaeth chi yn ddiogel.

  • Fe gewch chi ddefnyddio'ch cerdyn  Hamdden am Oes yn unrhyw un o'n Canolfannau Hamdden yn ystod oriau agor arferol ar gyfer yr holl weithgareddau, dosbarthiadau, a chyrsiau yn amodol ar argaeledd.

  • Ni sy'n darparu'r cerdyn  Hamdden am Oes  ac mae'n parhau i fod yn eiddo i ni. Mae'ch cerdyn yn dystiolaeth o'ch aelodaeth a bydd hi'n ofynnol i chi ddangos y cerdyn ar bob ymweliad er mwyn derbyn buddion yr aelodaeth.

  • Yn unol â gweithdrefnau archebu arferol, mae Aelodaeth o'r Cynllun yn rhoi hawl i chi archebu cyfleusterau yn ein Canolfannau Hamdden hyd at saith diwrnod ymlaen llaw, gan ddyfynnu rhif y cerdyn aelodaeth. Os cadwch chi le gan ddefnyddio'r cerdyn  Hamdden am Oes  sydd ddim yn cael ei anrhydeddu, mae'n bosibl y byddwch chi'n derbyn anfoneb neu'n gorfod talu ar y gyfradd lawn ar gyfer oedolion neu ar gyfer cwrt. Fel arall, efallai bydd gofyn i chi, a chithau’n ddeiliad y cerdyn, dalu’r gyfradd lawn ar gyfer dosbarth oedolion neu gwrt ar yr ymweliad nesaf.  Yr eithriad i hyn yw pan fydd o leiaf 24 awr o rybudd yn cael ei roi o ganslo archebiad cwrt, a dwy awr o leiaf o rybudd o ganslo dosbarth, lle na chaiff tâl ei godi ar y deiliad cerdyn.

  • Bydd modd i holl ddeiliaid cerdyn  Hamdden am Oes gyrchu cyfleusterau archebu ar-lein sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i gyrchu archebion cyrtiau a dosbarthiadau mewn canolfannau hamdden; bydd modd archebu'r rhain yn unol â'r breintiau archebu yn y rhestr uchod. Os ydych chi am gyrchu’r cyfleuster yma, bydd raid i chi gyflwyno cyfeiriad e-bost dilys, sydd ynghlwm wrth eich cofnod aelodaeth electronig.

  • Os byddwch chi'n colli neu’n difrodi’ch cerdyn  Hamdden am Oes  bydd modd rhoi cerdyn newydd yn ei le i chi yn unrhyw un o'n Canolfannau Hamdden – bydd angen prawf o bwy ydych chi. Os caiff cardiau eu hamnewid am rai newydd sawl gwaith, efallai bydd raid codi tâl arnoch chi.

  • Os byddwch chi'n colli cerdyn  Hamdden am Oes neu os bydd y cerdyn yn cael ei ddwyn, rhaid i chi roi gwybod i'r Cyngor ar unwaith. Hyd nes bydd hynny’n digwydd, byddwch chi’n atebol am unrhyw drafodion sydd wedi'u gwneud â'r cerdyn  Hamdden am Oes.

  • Chaiff cerdyn  Hamdden am Oes  mo’i ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynigion, ymgyrchoedd hyrwyddo y dichon i ni'u cynnal o bryd i'w gilydd.

Ni ddylid ystyried a chyfrif y telerau ac amodau defnyddio hyn yn rhai cynhwysfawr, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cadw'r hawl i newid y cyfryw delerau ac amodau fel sy'n rhesymol, o bryd i'w gilydd.

Rydyn ni'n cadw'r hawl i ddileu neu dynnu'n ôl y Cytundeb, a / neu wrthod mynediad i'n Canolfannau Hamdden, os ydyn ni’n canfod eich bod wedi torri unrhyw ran o'r cytundeb, neu os bydd unrhyw un arall neu unrhyw rai eraill o reoliadau'r Canolfannau Hamdden yn cael eu torri.

Rydyn ni'n cadw'r hawl i ddileu, tynnu'n ôl, neu newid telerau ac amodau'r Cynllun heb roi rhybudd i chi ac yn ôl ein disgresiwn ni.

DIOGELU DATA

Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldebau ar gyfer data o ddifrif. Byddwn ni dim ond yn defnyddio eich gwybodaeth chi at ddibenion y Cynllun yn unol â'r cyfreithiau diogelu data cyfredol.

ATEBOLRWYDD

Fyddwn ni a'n gweithwyr cyflogedig, swyddogion, ac asiantiaid ddim yn atebol mewn unrhyw ffordd o gwbl am golled, difrod, neu ddwyn eich eiddo (neu eiddo’ch partner), neu am anaf personol, a marwolaeth ac eithrio i'r graddau fod y cyfryw golled, difrod, neu niwed i, neu anaf neu niwed personol, neu farwolaeth o'r fath yn deillio o'n gweithred, esgeulustod neu fethiant bwriadol ni.