Skip to main content

Meysydd chwarae a chyrtiau

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth archebu canolog sy'n gyfrifol am drefnu llogi meysydd chwarae a chyrtiau ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon, yn ogystal ag achlysuron arbennig a lluniau priodas yn ei barciau/ardaloedd cefn gwlad.

Meysydd Chwarae Artiffisial

Mae'r Cyngor yn rheoli dros 20 maes chwarae artiffisial a thrac athletau ledled RhCT. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cyfleusterau yma ac i gadw lle, cliciwch y ddolen canlynol.

Chwilio a chadw lle ar-lein

Meysydd Chwarae Gwair

Mae'r Cyngor yn rheoli dros 100 maes chwarae gwair ledled RhCT sydd ar gael i dimoedd Rygbi, Pêl-droed, Bowls a Chriced eu defnyddio ar sail tymhorol. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â hyn, anfonwch ebost i swyddfaarchebuparciau@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 562202 (Opsiwn 2).

Achlysuron arbennig a lluniau priodas 

Mae modd hefyd archebu ar gyfer achlysuron arbennig a lluniau priodas yn y parciau/mannau gwledig. Anfonwch ebost i swyddfaarchebuparciau@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 562202 (Opsiwn 2). 

Canslo o ganlyniad i amodau gwael

Dydy'r Cyngor ddim yn ymgymryd ag arolygiadau o'r meysydd chwarae mwyach.  Swyddogion y clwb a dyfarnwyr fydd yn gyfrifol nawr am benderfynu a yw'r maes chwarae yn addas i chwarae arno.  Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ganslo gemau mewn amgylchiadau eithriadol.

Gweler y cyfrifoldebau ar gyfer clybiau chwaraeon o ran rheoli'r cyfleusterau hamdden.

Gweler y telerau ac amodau llawn ar gyfer archebu a defnyddio cyfleusterau ein parciau (pdf) .