Skip to main content

Meysydd chwarae a chyrtiau

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth archebu canolog sy'n gyfrifol am drefnu llogi meysydd chwarae a chyrtiau ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon, yn ogystal ag achlysuron arbennig a lluniau priodas yn ei barciau/ardaloedd cefn gwlad.

I gael gwybodaeth am brisiau ac argaeledd e-bostiwch ArchebuCaeChwaraeon@rctcbc.gov.uk neu SwyddfaArchebuParciau@rctcbc.gov.uk

Ffon/Tel: 01443 562202 (Opsiwn 2/Option 2)

Sut i gadw lle

Bydd rhaid cadw lle ddeuddydd ymlaen llaw o leiaf, hynny yw, dau ddiwrnod gwaith llawn. Bydd rhaid archebu cyfleusterau ar gyfer y penwythnos erbyn 12:00 o’r gloch brynhawn dydd Iau, felly.

Noder: Cyfrifoldeb y clybiau ydy rhoi gwybod i ni os oes unrhyw newidiadau yn y dyddiadau sydd wedi’u cytuno neu os oes trefniadau i’w dileu.

Sut i dalu

Mae archebion yn cael eu prosesu drwy Swyddfa Archebu'r Parciau, gan ddefnyddio'r rhifau ffôn uchod. Yna bydd anfoneb yn cael ei hanfon atoch chi.

Bydd hi'n bosibl talu trwy'r dulliau canlynol:

  • Eich banc lleol / swyddfa bost leol
  • Siec - Gwnewch y siec yn daladwy i 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf', a'i hanfon i Dŷ Bronwydd, Y Porth, RhCT CF39 9DL
  • BACS - Dyfynnwch gôd didoli 20-68-92 a'r rhif cyfrif 20639427
  • Cerdyn Debyd / Credyd - Ffoniwch 01443 680500 a gofyn am y Ddesg Dalu

Os oes gennych ymholiad ynglŷn â’ch anfoneb ffoniwch Swyddfa Archebu’r Parciau ar 01443 562202.

Telerau ac Amodau

Gweld:  telerau ac amodau llawn ar gyfer archebu a defnyddio ein cyfleusterau parciau.