Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth archebu canolog sy'n gyfrifol am drefnu llogi meysydd chwarae a chyrtiau ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon, yn ogystal ag achlysuron arbennig a lluniau priodas yn ei barciau/ardaloedd cefn gwlad.
Meysydd Chwarae Artiffisial
Mae'r Cyngor yn rheoli dros 20 maes chwarae artiffisial a thrac athletau ledled RhCT. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cyfleusterau yma ac i gadw lle, cliciwch y ddolen canlynol.
Meysydd Chwarae Gwair
Mae'r Cyngor yn rheoli dros 100 maes chwarae gwair ledled RhCT sydd ar gael i dimoedd Rygbi, Pêl-droed, Bowls a Chriced eu defnyddio ar sail tymhorol. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â hyn, anfonwch ebost i swyddfaarchebuparciau@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 562202 (Opsiwn 2).
Achlysuron arbennig a lluniau priodas
Mae modd hefyd archebu ar gyfer achlysuron arbennig a lluniau priodas yn y parciau/mannau gwledig. Anfonwch ebost i swyddfaarchebuparciau@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 562202 (Opsiwn 2).
Canslo o ganlyniad i amodau gwael
Dydy'r Cyngor ddim yn ymgymryd ag arolygiadau o'r meysydd chwarae mwyach. Swyddogion y clwb a dyfarnwyr fydd yn gyfrifol nawr am benderfynu a yw'r maes chwarae yn addas i chwarae arno. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ganslo gemau mewn amgylchiadau eithriadol.
Gweler y cyfrifoldebau ar gyfer clybiau chwaraeon o ran rheoli'r cyfleusterau hamdden.
Gweler y telerau ac amodau llawn ar gyfer archebu a defnyddio cyfleusterau ein parciau (pdf) .