Skip to main content

Nofio i'r Anabl

Weithiau, mae rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig a/neu anableddau yn poeni am anabledd eu plentyn a gwersi nofio.

Dylai pob plentyn gael ei drin fel unigolyn, felly yn ddibynnol ar ei anghenion penodol, dylai'r plentyn gael y cyfle i ddysgu nofio mewn gwersi prif ffrwd. Serch hynny, os ydy'r gwersi prif ffrwd yn rhy heriol i'ch plentyn a dydy e ddim yn gwneud cynnydd, rydyn ni'n cynnig gwersi mewn grwpiau penodol neu wersi un-wrth-un.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch ganolfan hamdden leol.

Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â rhaglen gyffrous Get Out Get Active. Mae hi'n cefnogi'r anabl a phobl heb anableddau i fwynhau cadw'n heini gyda'i gilydd er mwyn datblygu gwersi nofio i blant ag anableddau ym mhob un o'n canolfannau hamdden.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch y ddolen isod:

http://www.disabilitysportwales.com/get-out-get-active/

 Yn rhan o'r rhaglen yma ar hyn o bryd, rydyn ni'n cynnig gwersi yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon ac yn bwriadu cynnal gwersi yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant, Pwll Nofio Bronwydd a Chanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn y dyfodol agos.

Mae'r gost yn union yr un peth â'n gwersi nofio sef £4.50, neu am ddim i aelodau Hamdden am Oes.

Disability swimming lessons
dydd llunamser
Canolfan Chwaraeon Abercynon 16:00 - 17:00
dydd mercher 
Canolfan Hamdden Sobell 18:00 - 19:00