Mae llawer o bethau i'w gweld a'u gwneud ym Mharc Aberdâr gan gynnwys elyrch, dreigiau, gwifren wib a ffynhonnau.
Yng nghalon y parc mae yna lyn cychod hyfryd sydd wedi cael ei adnewyddu'n ofalus iawn. Hwyliwch eich cychod eich hunain neu mae croeso i chi logi un o'r cychod olwyn traddodiadol sydd wedi dychwelyd i'r parc. Dewiswch gwch alarch neu ddraig a mwynhau'r dŵr yn y ffordd orau posibl.
Chofiwch ymweld â'r Ffynnon Goroni. Dim ond tair ffynnon o'r math yma sydd - mae'r ffynnon yn union yr un fath â'r ffynnon sydd wedi'i lleoli y tu allan i ysbyty enwog Raffles yn Singapore.
Mae gan Barc Aberdâr aceri o dir y mae modd ei archwilio, yn ogystal â chyrtiau tennis, bowlio a man chwarae antur sy'n addas i bobl o bob oed - gan gynnwys siglenni a chwyrligwgan, gwifren wib a ffrâm ddringo.
Planhigion, blodau a bywyd gwyllt yn y parc:
Rhagor o wybodaeth am y gerddi blodau trawiadol a'r planhigion, coed, pryfed ac adar sydd i'w gweld ym Mharc Aberdâr.
Hanes y parc:
Mae Parc Aberdâr yn barc cyhoeddus o Oes Fictoria sydd wedi'i gadw mewn cyflwr da. Mae'r Parc yn barc rhestredig Gradd II* ar Gofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru (CADW-ICOMOS).
Ym 1911, roedd yr Arglwydd Merthyr wedi cyflwyno ffynnon haearn bwrw i drigolion Aberdâr i goffáu coroni Brenin Siôr V a Mary.
Ym 1980, cafodd y safle seindorf wreiddiol ei adeiladu allan o bren a heb do. Cafodd ei leoli ar ochr y llyn gyda diogon o le ar gyfer hyd at 30 o bobl.
Originally a drinking fountain, it was presented in 1905 by Mr Isaac George, High Constable of Mountain Ash before the end of his term of office.
Cafodd y cerflun ei greu gan Syr Thomas Brock a chafodd ei ddadorchuddio yn ystod seremoni ym mis Ionawr 1913 gan Syr T. Marchant Williams (Ynad cyflogedig).
Sawl blwyddyn yn ôl, aeth grŵp o bobl angerddol ati i sefydlu clwb cerbydau modur ysgafn a beiciau modur Aberaman a'r cylch.
Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn y parc ym 1956 a chafodd cylch yr Orsedd ei osod i gofio'r achlysur hwn.