Skip to main content

Rasys Beiciau Modur Parc Aberdâr

Dewch i'r parc yn ystod mis Gorffennaf os ydych chi eisiau chwa o adrenalin a gwylio'r rasys beiciau modur. 

Yn y gorffennol, mae beicwyr o fri gan gynnwys Jeff Duke, John Surtees a Mike Hailwood wedi arddangos eu doniau a sgiliau wrth rasio o gwmpas cylchffordd Rasys Ffordd Cenedlaethol sef y llwybr cerdded o gwmpas y parc.

Ers i'r Rasys gychwyn yn yr 1950au, mae'r achlysur wedi dod yn fwyfwy poblogaidd a dyma'r lle i fod i fwynhau'r cwrs heriol a phrydferth yma.

Gweld rhagor o wybodaeth am Rasys Beiciau Modur Parc Aberdâr