Man Chwarae
Mae ein man chwarae ni'n cynnig oriau o hwyl ac yn addas i blant o bob oed. Mae'r man chwarae'n cynnwys offer aml chwarae ar gyfer plant bach a rhedfa ar gyfer plant hŷn. Mae yna ddigon o bethau i'w cadw nhw'n weithgar ac yn hapus.
Cychod
Cafodd y llyn ei ailosod fel llyn cychod yn ystod yr haf yn 2017 a chewch chi olygfa wahanol o'r parc yma
Dewiswch alarch neu ddraig ac ymlacio ar y dŵr gan fwynhau'r golygfeydd a gweld ychydig o'r bywyd gwyllt sy'n byw yn y parc.
Mae'r atyniad yma ar agor bob dydd* rhwng 10am a 5pm yn ystod gwyliau ysgol a phob penwythnos yn ystod adegau tawel (rhwng y Pasg a diwedd mis Medi).
Pris: £5 fesul 30 munud.

Cychod i'w Llogi
*Nodwch fod hyn yn dibynnu ar amodau tywydd.