Skip to main content
 

Sbotolau Chwaraeon Rhondda Cynon Taf

Unwaith y mis, rydyn ni’n tynnu sylw at ysgolion, clybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol a phrosiectau gwych sy'n annog mwy o bobl i fod yn fwy heini ledled Rhondda Cynon Taf yn rhan o’n hymgyrch Sbotolau Chwaraeon RhCT.

Os hoffech chi roi gwybod am brosiect chwaraeon neu brosiect gweithgarwch corfforol gwych y mae eich ysgol, clwb chwaraeon neu grŵp cymunedol wedi'i wneud, anfonwch e-bost aton ni: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk

Neuadd Enwogion Chwaraeon Rhondda Cynon Taf

Ebrill 2024

Lleoliad i Fyfyrwyr: Mae ein lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr addysg bellach roi'r sgiliau y maen nhw wedi'u dysgu yn rhan o'u gradd ar waith er mwyn ennill profiad bywyd go iawn, sgiliau, magu hyder, gwybodaeth am y sector chwaraeon a meithrin perthnasoedd proffesiynol. Yn ystod y flwyddyn academaidd yma, fe wnaethon ni recrwitio, hyfforddi, trefnu lleoliad a mentora myfyrwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Manteisiodd y myfyrwyr ar nifer o gyfleoedd yn rhan o'n Prosiectau Pobl Ifainc Egnïol, Chwaraeon yn y Gymuned a phrosiectau Gweithgarwch Corfforol, y rhaglen Llysgenhadon Ifainc a'r Wobr 'PlayMakers'. Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar ystadegau effaith.

Mawrth 2024

Clwb Osgoi'r Bêl Dreigiau Cwm Rhondda: Sefydlodd Clwb Osgoi'r Bêl Dreigiau Cwm Rhondda adran iau yn y Ddraenen Wen yn 2023. Roedden ni wedi eu helpu nhw i hyrwyddo’r clwb trwy gynnal sesiynau blasu a thwrnamaint i ysgolion, ac ymunodd dros 50 o aelodau iau. Fe wnaethon ni hefyd eu helpu i wneud cais am grant Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Derbyniodd y clwb £976 i brynu offer. 

Dim ond un clwb osgoi’r bêl sydd yn RhCT, felly yn dilyn llwyddiant eu sesiynau i blant iau yn y Ddraenen Wen, penderfynodd y clwb ehangu a chyflwyno sesiynau yng Nghwm Rhondda. Eto, fe wnaethon ni eu cefnogi a threfnu iddyn nhw gynnal sesiynau blasu mewn 11 ysgol gynradd. Mwynhaodd dros 1,000 o blant y sesiynau blasu, ac erbyn hyn mae 25 o blant yn mynychu sesiwn osgoi'r bêl yn y gymuned bob wythnos. Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar ystadegau effaith.

Chwefror 2024

Dewch yn Hyfforddwr yn y Gymuned: Roedd partneriaeth a sefydlon ni gyda Gwaith a Sgiliau RhCT yn llwyddiannus iawn yn dilyn cwblhau Rhaglen Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin wedi'i hariannu gan Lywodraeth y DU. 

Darparon ni hyfforddiant penodol oedd wedi'i deilwra i roi cyfle i bobl oedd â diddordeb brwd mewn chwaraeon symud ymlaen i gyflogaeth ym maes Hyfforddi. Roedd y cwrs, a gafodd ei gynnal dros gyfnod o chwe wythnos, yn cynnwys modiwlau ymarferol a theori. Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar ystadegau effaith.

Ionawr 2024

Dechreuon ni gynnal Gyda'r Hwyr yn y Parc ym Mhontypridd ym mis Ionawr 2019, ar y cyd â chymdeithas dai Newydd. Nod y prosiect oedd annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r parc a darparu amgylchedd diogel i bobl redeg yn ystod misoedd y gaeaf. I ddechrau, roedd wedi'i dargedu at unigolion nad oedden nhw'n rhedeg, ond fe wnaeth y sesiynau ddenu unigolion â chymysgedd o alluoedd rhedeg, o ddechreuwyr i redwyr rheolaidd. 

5 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i fynd. Mae dros 200 o sesiynau wedi cael eu darparu, gyda chyfanswm o 240 o bobl wedi cymryd rhan yn y sesiynau. Mae nifer o'r bobl hynny oedd heb redeg o'r blaen wedi datblygu'n rhedwyr rheolaidd ac maen nhw bellach yn rhedeg rasys 5k, 10k a hyd yn oed hanner marathon. Mae nifer o aelodau'r grŵp yn mynd i parkrun Pontypridd yn rheolaidd, sy'n cael ei gynnal yn yr un parc. Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar ystadegau effaith a chliciwch yma i weld ein hastudiaeth achos llawn

Rhagfyr 2023

Dychwelyd i Bêl-rwyd Cwm Rhondda: Wedi i ni gynnal sesiynau 'Dychwelyd' a Phêl-rwyd Cerdded llwyddiannus mewn ardaloedd eraill yn Rhondda Cynon Taf, fe benderfynon ni ddechrau sesiynau 'Dychwelyd i Bêl-rwyd' newydd yng Nghwm Rhondda. Am nad oedd sesiynau rheolaidd yn cael eu cynnal yn yr ardal, roedden ni'n ymwybodol bod galw cynyddol, felly aethon ni ati i drefnu sesiwn flasu. Roedd y sesiwn gychwynnol yn llwyddiannus felly aethon ni ati i drefnu cyfres o sesiynau dros 10 wythnos. Cafodd y sesiynau eu hanelu at fenywod oedd wedi chwarae pêl-rwyd o'r blaen, yn yr ysgol, neu'r rheiny oedd yn gwbl newydd i'r gamp. Roedd y sesiynau yn cynnig amgylchedd anghystadleuol i'r menywod fwynhau camp hwyl a gweithgarwch corfforol cymdeithasol. 

Wedi i'r gyfres o ddeg sesiwn ddod i ben, roedd y grŵp yn awyddus i'r sesiynau barhau, felly trosglwyddon ni'r awenau i rai o'r menywod. Maen nhw'n cynnal y sesiynau, cadw lle yn y lleoliad, ac yn gofalu am yr offer. Mae dros 15 o fenywod bellach yn mynychu bob wythnos, gyda dros 30 wedi mynychu o leiaf unwaith. Rydyn ni'n gobeithio i'r sesiynau barhau yn hirdymor a byddwn ni'n parhau i gefnogi'r grŵp wrth iddyn nhw ddatblygu. Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar ystadegau effaith.

Tachwedd 2023

Prosiect Fitbit Ynys-y-bwl: Fe weithion ni gyda grŵp o rieni yn Ysgol Gynradd Trerobart oedd wedi dangos diddordeb yn ein prosiect Fitbit am eu bod nhw'n chwilio am gymorth er mwyn gwella'u lles. Buon ni'n cwrdd â'r grŵp bob wythnos yn ystod y boreau coffi, ac yn siarad am eu cynnydd ac unrhyw heriau ddaeth i'r amlwg yn ystod yr wythnos Byddai pob unigolyn yn cael targed personol ar gyfer yr wythnos ganlynol. 

Dros gyfnod o 10 wythnos, cyflawnodd y cyfranogwyr gynnydd o 383,590 yn nifer eu camau, sef cynnydd o 38,359 o gamau fesul person ar gyfartaledd. Dywedodd y cyfranogwyr fod y prosiect wedi rhoi hwb iddyn nhw i wneud rhagor o ymarfer corff, wedi gwneud iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb, wedi rhoi strwythur wrth fod yn hyblyg ar yr un pryd, ac wedi gwella'u dealltwriaeth. Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar ystadegau effaith a chliciwch yma i weld ein hastudiaeth achos llawn.

Hydref 2023

Darperir sesiynau Ioga yn y Dŵr Camau i Famau gan fydwragedd: Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Bydwraig Arbenigol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddatblygu ein rhaglen Camau i Famau. Roedd y ddau ohonom yn cydnabod manteision hyfforddi bydwragedd i gymryd dosbarthiadau a phenderfynwyd archwilio hyn fel dilyniant ar gyfer y rhaglen. Daethon ni o hyd i ddarparwr cwrs hyfforddi ioga yn y dŵr i bobl feichiog a threfnu cwrs ioga yn y dŵr preifat i'r 6 bydwraig ei fynychu. Yna, cysyllton ni â Gwasanaethau Hamdden Rhondda Cynon Taf i nodi lleoliadau addas a oedd ar gael i gynnal y sesiynau.  Cynhaliwyd y sesiynau yn y ddau leoliad am 6 wythnos, ac roedd adborth gan gyfranogwyr yn gadarnhaol iawn.

Hoffen ni achub ar y cyfle yma i ddathlu Sharon Webber, Bydwraig Arbenigol Iechyd y Cyhoedd a oedd yn bartner i ni ar gyfer y prosiect yma. Yn ddiweddar, enillodd Sharon y wobr Nyrs y Flwyddyn yng ngwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn y categori 'Gwella Iechyd Unigolion a'r Boblogaeth', am ei gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu. Da iawn Sharon!Cliciwch yma i weld ein graffeg effaith a chliciwch yma i ddarllen ein hastudiaeth achos lawn.

Medi 2023

Ein rhaglen Haf o Hwyl: Cafodd ein rhaglen Haf o Hwyl 2023 ei chynnal dros chwe wythnos yn ystod gwyliau'r haf. Roedd y rhaglen wedi cynnig ystod o weithgareddau hwyliog ledled Rhondda Cynon Taf i annog plant o dan 11 oed a'u teuluoedd i fod yn fwy heini. Roedden ni wedi cynnig 56 cyfle gwahanol, gyda phob un yn canolbwyntio ar hwyl. Roedd ystod o weithgareddau, sesiynau ac achlysuron yn rhan o'r rhaglen, gyda phob un yn cael ei ddewis am wahanol rhesymau.

Bwriad ein sesiynau 'Just Play Football' gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru oedd i annog bechgyn a merched rhwng 6 a 9 oed i chwarae a mwynhau pêl-droed. Annog plant sydd ddim eisoes yn aelodau o glwb pêl-droed oedd nod y sesiynau yma. 

Gweithion ni gyda Gwasanaethau Hamdden Rhondda Cynon Taf i gynnal gwersylloedd aml-chwaraeon yn Aberdâr gan fod y lleoliad wedi adnabod bod yna alw yn y gymuned leol am sesiynau chwaraeon i blant iau yn ystod y gwyliau ysgol. Roedden ni wedi cynnal cyfres o wersylloedd a oedd yn canolbwyntio ar un chwaraeon, gan weithio mewn partneriaeth â gwersylloedd pêl-droed a phêl-rwyd lleol i'w hyrwyddo a chynyddu'r nifer o aelodau sydd gyda nhw. 

Hefyd, roedden ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Cwm Cycling Cynon i gynnig diwrnodau Reidio Beic, hyrwyddo'i wasanaeth llogi beiciau a chynnig y cyfle i deuluoedd reidio beic am ddim mewn lleoliad hardd. 

Roedd ein hachlysuron Hwyl i'r Teulu yn yr Awyr Agored wedi cynnig cyfleoedd i'r teulu fod yn heini gyda'i gilydd. Teuluoedd â phlant rhwng 2 a 7 oed oedd cynulleidfa darged yr achlysuron yma. Roedd llwybrau stori, beiciau cydbwysedd a sesiynau 'sports tots' yn rhan o'r achlysuron yma. Mae ymchwil yn dangos bod plant yn fwy tebygol o fod yn heini os oes rhieni heini gyda nhw. Yn ogystal â chymryd rhan ar y diwrnod, roedd y teuluoedd wedi gadael gydag offer ac adnoddau a fydd yn eu cefnogi nhw i barhau i gadw'n heini fel teulu. Rydyn ni'n gobeithio bydd gwneud hyn yn datblygu plant sy'n gryf eu gallu'n gorfforol.

Roedd cyfanswm o 1,015 o bobl wedi cymryd rhan yn ein rhaglen, gyda 1,498 o bobl wedi ymgysylltu. Cliciwch yma i weld ein ffeithluniau effaith a chliciwch yma i ddarllen ein hastudiaeth achos lawn.

Awst 2023

Prosiect Erobeg dŵr SuperAgers ym mhwll nofio Glynrhedynog: Cafodd prosiect Erobeg Dŵr ei ddatblygu yn dilyn llwyddiant mawr sesiynau Erobeg Cadair Freichiau SuperAgers a gafodd eu cynnal bob wythnos yng Nghanolfan Gymuned Maerdy gyda The Fern Partnership. Roedd y rheiny a fu'n rhan o'r prosiect Erobeg Cadair Freichiau wedi mynegi diddordeb mewn Erobeg Dŵr, ac roedden nhw'n hyderus y byddai digon o alw am sesiwn. Cafodd y sesiwn gyntaf ei chynnal ym mis Ebrill gyda 23 o oedolion hŷn yn mynychu'r sesiwn. Ar gyfartaledd, mae 17 o bobl yn mynychu'r sesiwn Erobeg Dŵr bob wythnos. Mae’r sesiwn Erobeg dŵr yn gyfle i'r rhai sy'n mynychu i gymdeithasu â'i gilydd, yn ogystal â chyfle i gadw’n heini. Roedd nifer o’r bobl sy’n mynychu’r sesiwn wedi nodi nad ydyn nhw’n cael cyfle i fynd i wahanol lefydd a chymdeithasu fel oedden nhw’n ei wneud cyn y pandemig. Mae'r sesiwn yma wedi rhoi'r hyder iddyn nhw i ddechrau cymdeithasu unwaith eto.  Darllenwch yr astudiaeth achos yma i gael rhagor o wybodaeth.

Gorfennaff 2023

Ysgol Gyfun Aberpennar: Cyflwynodd dau Lysgennad Ifanc Aur o Ysgol Gyfun Aberpennar gais i'n Dragon's Den am gyllid i ddarparu prosiect. Roedden nhw eisiau cynnig cyfleoedd newydd ac annog rhagor o bobl ifainc yn eu hysgol i gadw'n heini. Roedden nhw'n llwyddiannus ac fe dderbynion nhw gyllid gwerth £450 er mwyn lansio prosiect Kin-ball. Maen nhw'n darparu sesiynau Kin-ball yn ystod gwersi Addysg Gorfforol ac yn bwriadu dechrau clwb ar ôl ysgol. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth.

Mehefin 2023

Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain: Cafodd pedwar disgybl o Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain eu hethol yn Llysgenhadon Ifainc Efydd. Ar ôl i'r disgyblion ddod i'n cynhadledd, roedden nhw wedi dychwelyd i'r ysgol a datblygu prosiect i wella iechyd, lles a ffitrwydd eu cyfoedion. Eu nod oedd annog eu cyfoedion sydd ddim yn gwneud llawer o ymarfer corff i fod yn fwy actif yn ystod amser chwarae, gan gydnabod bod angen gwella buarth yr ysgol. Mae'r buarth yn fach, a daeth i'r amlwg bod gemau pêl-droed yn dominyddu'r lle chwarae sy'n atal plant eraill rhag bod yn actif. Roedden nhw o'r farn byddai rhannu'r buarth i rannau cyfartal yn rhoi cyfle teg i bob plentyn i gymryd rhan mewn ffordd ddiogel. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth. 

Mai 2023

Ysgol Gynradd Caegarw: Yn dilyn cais llwyddiannus i'n Cronfa Ysgol Sylfaenol, sefydlodd yr ysgol glwb beic balans ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion oed cyfnod sylfaen. Mynychodd un athrawes hyfforddiant cyn cynnal 6 sesiwn beic balans hwyl ar gyfer 5 plentyn. Roedd y plant wrth eu boddau gyda'r sesiynau ac roedden nhw i gyd wedi cynyddu eu hyder a gwella eu sgiliau. Bu teuluoedd yn mynychu'r sesiwn olaf ac roedd rhieni'n falch iawn â chynnydd y plant. Mae'r ysgol hefyd yn cynnal cynllun rhentu beiciau balans gan ganiatáu i deuluoedd logi'r beiciau ar gyfer y penwythnos a gwyliau ysgol. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth. 

April 2023

Y mis yma rydyn ni'n dathlu ein partneriaeth â Chwaraeon Prifysgol De Cymru. Yn rhan o'u lleoliadau gwaith, gweithiodd myfyrwyr gyda ni i gyflwyno prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion. Cwblhaodd 22 o fyfyrwyr 1470 awr mewn 10 ysgol, gan ymgysylltu â 553 o ddisgyblion. Mae crynodeb o bob prosiect wedi'i gynnwys isod.

Ysgol Gynradd Bodringallt - Nod y prosiect oedd datblygu sgiliau symudedd sylfaenol drwy gemau a gweithgareddau hwyl. Cyflwynodd y myfyrwyr sesiynau aml-chwaraeon/sgiliau ar gyfer plant rhwng 4 ac 11 oed. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Caegarw - Nod y prosiect yma oedd datblygu Badminton yn yr ysgol. Roedd y disgyblion am roi cynnig ar chwaraeon newydd, felly fe dargedodd y myfyrwyr flynyddoedd 4 a 5 a rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth iddyn nhw gymryd rhan yn y chwaraeon newydd yma'n hyderus. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru – Nod y prosiect yma oedd datblygu sgiliau symudedd sylfaenol drwy roi'r cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar ystod o chwaraeon newydd. Canolbwyntiodd y myfyrwyr ar chwaraeon tîm gyda phlant rhwng 7 ac 11 oed, gan ddatblygu sgiliau taflu a dal. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gyfun Aberpennar - Nod y prosiect yma oedd cynyddu gweithgarwch corfforol a lefelau hyder merched ym mlynyddoedd 7 ac 8. Gweithiodd y myfyrwyr i greu amgylchedd diogel a chyfforddus iddyn nhw gymryd rhan mewn pêl-droed. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Gymunedol Penyrenglyn - Nod y prosiect yma oedd rhoi'r cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar chwaraeon a gemau newydd. Fe wnaeth y myfyrwyr deilwra'r sesiynau i ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau symudedd sylfaenol. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Gwaunfarren - Gweithiodd y myfyrwyr gyda'r ysgol a Heini Merthyr Tudful i ddatblygu ystod o sgiliau symudedd sylfaenol gyda disgyblion ym mlwyddyn 1. Rhoddon nhw bwyslais ar bwysigrwydd gweithgarwch corfforol rheolaidd gan gynnwys yr ystod o fanteision iechyd. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Ynys-hir - Nod y prosiect yma oedd cynyddu lefelau cyfranogiad ym mlynyddoedd 2 a 3, mewn ymgais i wneud yn iawn am y cyfleoedd y gwnaethon nhw eu colli yn ystod pandemig COVID-19. Defnyddioddd y myfyrwyr themâu creadigol i ddatbygu'r sesiynau a ganolbwyntiodd ar hyder. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen - Cyflwynodd y prosiect yma gweithagreddau newydd i ddisgyblion, wrth hybu eu hyder a'u cefnogi nhw i ddatblygu eu perthnasau â'u ffrindiau ymhellach. Targedodd y myfyrwyr ddisgyblion o ddosbarth derbyn i flwyddyn 4 gydag ymyrraeth aml-sgiliau. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd yr Hafod - oedd prosiect yr ysgol yma'n galw am Lysgenhadon Efydd Ifainc i ddarparu gweithgareddau chwaraeon. Cynhaliwyd amrywiaeth o sesiynau a chafodd clybiau newydd eu datblygu yn seiliedig ar farn y disgyblion. Dilynwch y ddolen yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Blaengwawr - Roedd y prosiect yma'n cynnwys sesiynau chwaraeon a oedd yn galw am nifer o sgiliau gwahanol i ddysgu'r plant sut i weithio gyda'i gilydd yn un tîm. Roedd y sesiynau awyr agored yma'n addas i blant o'r feithrinfa hyd at flwyddyn 3. Dilynwch y ddolen yma i weld effaith y prosiect. 

Mawrth 2023

Ysgol Gynradd Tref Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru: Roedd sesiynau llais y disgybl wedi dangos bod disgyblion yn teimlo'n bryderus a dan straen yn dilyn y pandemig. Yn sgil hyn penderfynodd yr ysgol wneud cais i’n Cronfa Ysgolion i sefydlu clwb ioga ar ôl ysgol. Roedd yr ysgol yn gobeithio y byddai gweithgareddau o'r math yma'n cael effaith gadarnhaol ar les emosiynol, meddyliol a chorfforol y disgyblion. Defnyddiodd yr ysgol yr arian i brynu offer newydd a chytunodd athro i gynnal y sesiynau. Yn rhan o'r sesiynau, roedd y disgyblion yn gwneud ystod o symudiadau ymestyn ioga/pilates yn ogystal ag ymarfer dulliau ymlacio meddylgar trwy adrodd stori. Mwynhaodd y disgyblion y sesiynau a dywedodd 100% ohonyn nhw eu bod nhw'n teimlo'n hapusach a dywedodd 83% eu bod nhw'n teimlo'n fwy hyderus. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth. 

Chwefror 2023

Ysgol Gynradd yr Hafod: Cyflwynodd Llysgenhadon Ifainc Efydd yr ysgol gais i'n Cronfa Ysgolion i sefydlu clwb hoci ar ôl ysgol. Defnyddiodd yr ysgol yr arian yma i brynu offer ac adnoddau.Penderfynodd y Llysgenhadon i adael i ddisgyblion ddefnyddio'r offer yma yn ystod amser egwyl. Gwyliwch y fideo yma i gael rhagor o wybodaeth.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas