Skip to main content
 

Taith Gyfnewid Baton y Frenhines 2022

Mae Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn draddodiad Gemau'r Gymanwlad. Mae'n symbol o'r ffaith bod holl wledydd a thiriogaethau'r Gymanwlad yn dod at ei gilydd i baratoi ar gyfer y Gemau.  Bydd Gemau'r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn ninas Birmingham yr haf yma, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael cefnogi Tîm Cymru.

Bydd y baton yn teithio o gwmpas Cymru yn rhan o'i daith 5 niwrnod, gan dreulio awr gyda ni yng Nghwm Clydach. Mae Rhondda Cynon Taf yn falch i groesawu Taith Gyfnewid Baton y Frenhines, ac rydyn ni eisiau i chi fod yna gyda ni. 

Er mwyn dathlu'r achlysur, rydyn ni'n cynnal sesiynau athletau i blant 4–12 oed ar y trac mewn partneriaeth â Chlwb Athletau Cwm Rhondda ac Athletau Cymru. Bydd y gweithgareddau'n digwydd rhwng 4.00pm a 5.30pm. Bydd y sesiwn am ddim. Mae modd cadw lle ar-lein yma.

Cyhoeddiad: Cludwyr y Baton

Mae 15 unigolyn wedi'u dewis i gario'r baton yn ystod y daith gyfnewid o gwmpas Trac Athletau Brenin Siôr V.

Saith o Lysgenhadon Ifainc Efydd:

  • Brooke Nicholas (Ysgol Gynradd Llwynypïa)
  • Max Owen (Ysgol Gynradd Llwynypïa)
  • Harvey Jones (Ysgol Gynradd Cwm Clydach)
  • Nile Williams (Ysgol Gynradd Cwm Clydach)
  • Jesse Cope (Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain)
  • Finley Griffiths (Ysgol Gynradd Trealaw)
  • Levi Blaken (Ysgol Gynradd Trealaw)

Mae Llysgenhadon Ifainc Efydd yn gweithio yn eu hysgolion cynradd i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon newydd a hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith eu cyfoedion. Mae pob un ohonyn nhw'n fodelau rôl ac yn ysbrydoli plant eraill i gymryd rhan. Mae pob un o’r saith Llysgennad Ifanc Efydd yma wedi cyflawni prosiectau gwych ac wedi dangos sgiliau arwain arbennig.

Dau o Lysgenhadon Ifainc Arian:

  • Agatha Bess (Ysgol Gyfun y Pant)
  • Jack Jones (Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen)

Mae Llysgenhadon Ifainc Arian yn gweithio yn eu hysgolion uwchradd a'r gymuned ehangach i gynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon trwy ysbrydoli eraill i wneud ymarfer corff. Maen nhw'n gweithio gyda ni a staff yr ysgol i ddatblygu prosiectau. Mae pob un o’n Llysgenhadon Ifainc Arian wedi gweithio'n galed eleni i ddatblygu cyfleoedd newydd ac i hyrwyddo chwaraeon ymhlith eu cyfoedion.

Ffion Lightfoot, Llysgennad Ifanc Aur o Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru.

Mae Llysgenhadon Ifainc Aur yn gweithio yn eu hysgolion uwchradd a'r gymuned ehangach i gynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon trwy ysbrydoli eraill i wneud ymarfer corff. Maen nhw'n helpu i hyfforddi Llysgenhadon Ifainc Efydd ac Arian, ac yn cynrychioli RhCT yn genedlaethol. Mae Ffion a'r Llysgenhadon Ifainc Aur eraill wedi cyflawni gwaith gwych yn eu cymunedau nhw, ac wedi bod yn gefn i'n carfan ni wrth i ni ddarparu cynllun y Llysgenhadon Ifainc.

Pedwar o Wirfoddolwyr Clwb Athletau Cwm Rhondda:

  • Catherine Alford
  • Glyn Pugh
  • Pauline Dobbs
  • Wayne Hughes

Mae'r pedwar gwirfoddolwr yma'n rhan annatod o Glwb Athletau Cwm Rhondda. Maen nhw'n ymroddgar iawn ac yn rhoi o'u hamser bob wythnos i gynnal y clwb.  Maen nhw wedi cael dylanwad enfawr ar athletau yn RhCT, mae'r clwb wedi hyfforddi llawer o athletwyr o safon ond mae'r clwb hefyd yn darparu cyfleoedd ar lawr gwlad i blant ac oedolion o bob oed a gallu.

Rhys Jones, para-athletwr

Mae Rhys yn bara-athletwr sy'n cystadlu mewn cystadlaethau rhedeg categori T37. Cynrychiolodd garfan Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 a Rio 2016. Mae Rhys wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ddwywaith. Enillodd fedal efydd yng ngemau Glasgow 2014. Bachgen lleol yw Rhys a ddechreuodd ei daith athletau yng Nghwm Clydach gyda Chlwb Athletau Cwm Rhondda. Bydd e'n cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad unwaith eto pan fydd yn teithio i Birmingham dros yr haf. 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas