Mae ein carfan Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol yn y Gymuned yn cynnig ystod o gymorth i ysgolion cynradd ac uwchradd yn Rhondda Cynon Taf.
Gweler isod y ffyrdd mae modd i ni gefnogi'ch ysgol i ddod yn fwy egnïol, yn amlach.
Cronfa Ysgolion
Dyluniwyd ein cronfa ysgolion i roi cymorth i ysgolion ddatblygu darpariaeth chwaraeon allgyrsiol a gweithgareddau corfforol. Mae modd i ysgolion cynradd wneud cais am hyd at £250 ymhob blwyddyn academaidd, ac mae modd i ysgolion uwchradd wneud cais am hyd at £500.
Er mwyn gwneud cais am yr arian yma, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais cronfa ysgolion, gan esbonio beth yw eich prosiect a beth fydd effaith y prosiect o fewn yr ysgol. Mae cynaliadwyedd prosiectau'n bwysig, ystyriwch sut y bydd eich prosiect yn parhau ar ôl i'r cyllid gael ei wario. Os oes gyda chi Lysgenhadon Ifainc rydyn ni'n eich annog i'w cynnwys yn y broses, gan roi cyfle iddyn nhw roi eu dysgu mewn cyd-destun a datblygu eu sgiliau arwain ymhellach.
Yn un o amodau'r cyllid bydd gofyn i chi lenwi ffurflen cwblhau prosiect. Mae hyn yn ein helpu i ddeall hynt a helynt y prosiect ac a oedd yn llwyddiannus. Byddwn ni'n e-bostio pob ysgol pan fydd y gronfa ysgolion yn agor ar gyfer ceisiadau. I gael rhagor o wybodaeth a dyddiadau, cliciwch yma.
Rhaglen Llysgenhadon Ifainc
Nod y rhaglen Llysgenhadon Ifainc yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifainc i ddod yn arweinwyr uchelgeisiol a galluog drwy chwaraeon, gan eu helpu i annog eu cyfoedion i gadw'n heini.
Mae disgwyl i bob Llysgennad Ifanc gynrychioli llais pobl ifanc i drafod Addysg Gorfforol a Chwaraeon yn ei ysgol a'i gymuned. Bydd disgwyl i'r llysgennad weithio i hyrwyddo gwerthoedd chwaraeon, meithrin perthnasoedd cadarnhaol, bod yn esiampl dda i eraill ac i hyrwyddo chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ei ysgol.
Hoffai Chwaraeon RhCT weithio gyda'n Llysgenhadon Ifainc i gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl allu cymryd rhan yn eu hysgolion a'u cymunedau, gan geisio cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes. Rydyn ni'n cefnogi hyn drwy gynnig hyfforddiant arweinyddiaeth i'n Llysgenhadon Ifainc, ynghyd â chyfleoedd i rwydweithio gyda llysgenhadon o ysgolion eraill ac adnoddau drwy ein cyfleoedd cyllido amrywiol. Am fanylion pellach cliciwch yma.
Chwaraeon RhCT - Carfan Ysgolion
Mae modd i'n carfan ysgolion gyflenwi yn eich ysgol chi a chynnig cyfleoedd i'ch disgyblion gymryd rhan mewn ymarfer corff. Mae gan bob aelod o staff gymwysterau mewn nifer o chwaraeon, maen nhw wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf a diogelu ac maen nhw wedi cael ymchwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cymorth am Ddiwrnod Cyfan - Bydd aelod o'r garfan yn cynorthwyo eich ysgol am ddiwrnod cyfan, gan gyflenwi unrhyw gyfnodau CPA neu os oes angen rhyddhau athrawon am unrhyw reswm arall.
Cymorth am Hanner Diwrnod - Bydd aelod o'r garfan yn darparu gwasanaeth yn ystod amser cinio, yn cynnig cymorth yn ystod y prynhawn ac yn darparu clwb ar ôl yr ysgol.
Clybiau ar ôl ysgol - Mae modd i ni ddarparu ystod eang o weithgareddau aml-chwaraeon er mwyn ennyn diddordeb plant ar ôl ysgol.
Mae modd cadw lle ar gyfer y 3 gwasanaeth yma am hanner tymor a thymor llawn.
Cadw Lle ar gyfer Diwrnod Llawn Un Tro - Mae modd i aelod o'r garfan ymweld â'ch ysgol chi am ddiwrnod cyfan i gynnal achlysur chwaraeon (e.e. mabolgampau), darparu rhaglen arweinyddiaeth (e.e. Gwobr 'PlayMakers') neu gynnig cymorth i gyflwyno unrhyw brosiect iechyd a lles arall.
Am ragor o fanylion, i drafod eich cais a / neu i gael dyfynbris, e-bostiwch Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk
Gwyliau a Chystadlaethau
Ar y cyd gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, rydyn ni'n cynnal nifer o wyliau ac achlysuron chwaraeon ysgol am ddim. Mae'r rhain yn rhoi'r cyfle i'ch disgyblion gymryd rhan mewn cystadlaethau llawn hwyl gydag ysgolion eraill, dysgu sgiliau newydd a darganfod clybiau lleol yn eu cymuned. I weld calendr o wyliau ac achlysuron, cliciwch yma. Os hoffech chi gymorth i gynnal achlysur eich hunan, llenwch y ffurflen gais ar waelod y dudalen.
Gwobr PlayMaker
Mae'r Wobr PlayMaker yn gymhwyster i Arweinwyr Chwaraeon ac yn gyflwyniad gwych i arweinyddiaeth i ddisgyblion naw oed a hŷn. Mae'n gwrs 6 awr sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau arwain y disgyblion. Bydd disgyblion yn dysgu cydweithredu â'u cyfoedion, datblygu perthnasoedd cadarnhaol a chymhwyso eu gwybodaeth i hyrwyddo ac arwain gemau chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn yr ysgol. Mae modd cyflwyno'r wobr yma drwy staff yr ysgol neu drwy Chwaraeon RhCT.
Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn cymryd rhan yng ngwobr PlayMaker neu pe hoffech chi ragor o wybodaeth, e-bostiwch: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk
Heriau Gwyliau'r Ysgol
Trwy gydol y flwyddyn rydyn ni'n cyhoeddi nifer o heriau â thema am ddim i annog disgyblion a'u teuluoedd i gadw'n heini yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys rhestr o weithgareddau sylfaenol sy'n gysylltiedig â'r thema benodol. Felly p'un a ydych chi'n ymweld â'ch canolfan hamdden leol neu'n mynd am dro yn eich parc lleol, bydd ein heriau'n annog disgyblion i fynd allan ac i gadw'n heini yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae modd i chi gyflwyno'r heriau rydych chi wedi'u cwblhau ar gyfryngau cymdeithasol i gael cyfle i ennill gwobrau.
Gwaith Cartref Gweithgar
Mae ein llyfrau Gwaith Cartref Gweithgar wedi'u cynllunio'n ffordd hwyliog i'ch helpu chi i annog eich disgyblion i gadw'n heini y tu allan i'r ysgol. Maen nhw ar gael mewn fformat digidol ac ar bapur. Mae gyda ni nifer o dystysgrifau wedi'u cynllunio ymlaen llaw y mae modd i chi eu dyfarnu i'ch dosbarth ynghyd â thempled i chi greu eich gwobrau eich hun. Pe hoffech chi roi cynnig ar ein llyfrynnau Gwaith Cartref Gweithgar yn eich ysgol, anfonwch e-bost aton ni: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk.
Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
Disgyblion sy'n llywio'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, ac mae'n cynnig cip amhrisiadwy gan ddylanwadu ar iechyd a lles pob plentyn mewn ffordd gadarnhaol. Drwy lenwi'r arolwg, bydd modd i chi wneud defnydd o ystod eang o ddata am lefelau gweithgaredd eich disgyblion a'u diddordebau. Bydd y data yn benodol i'ch ysgol chi. Bydd hyn yn eich galluogi chi i adnabod meysydd â chryfderau a'r meysydd lle mae modd i chi effeithio fwyaf ar lefelau gweithgaredd corfforol eich disgyblion. Pan fydd Chwaraeon Cymru yn rhyddhau'r arolwg nesaf bydd modd i'n carfan eich cefnogi chi i'w gwblhau a datblygu prosiectau yn seiliedig ar eich adroddiad.
Symud sy'n Bwysig
Adnodd a ddyluniwyd gan Chwaraeon RhCT i gael rhagor o blant i gadw'n heini ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf a chefnogi datblygiad llythrennedd corfforol yw Symud sy'n Bwysig. Rydyn ni eisiau i bob plentyn gael y sgiliau corfforol, yr hyder a'r cymhelliant i fod yn gorfforol weithgar am oes. Dyluniwyd cardiau gweithgareddau, a grëwyd o amgylch 6 thema gyffrous, yn adnodd i gefnogi cyflwyno gweithgareddau corfforol mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae modd chwarae'r gemau heb lawer o offer ac maen nhw'n addas ar gyfer ystod oedran eang o blant sydd heb ddechrau'r ysgol a phlant o oedran ysgol gynradd. Mae hyfforddiant ar gael ar sut i ddefnyddio'r adnodd hefyd. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am Symud sy'n Bwysig, dilynwch y ddolen neu e-bostiwch: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk.
Ffurflen Gais am Wasanaethau i Ysgolion