Skip to main content
 

Cysylltiadau Clybiau Ysgol

Cynllunio

  • Beth ydych chi angen ri roi ar waith cyn cysylltu â'r ysgol? Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwirfoddolwr cymwysedig, cyswllt clwb addas, deunyddiau hyrwyddo.
  • Beth fyddwch chi'n ei gynnig i'r ysgol(ion)? Taflenni neu gopïau digidol i’w rhannu drwy neges destun/gwefan/cyfryngau cymdeithasol, sesiynau blasu yn ystod neu ar ôl ysgol, ymweliad ysgol neu achlysur/gŵyl.
  • Sut fyddwch chi'n cael aelodau newydd? Hyrwyddo manylion eich timau, defnyddio tocynnau euraidd Chwaraeon Rhondda Cynon Taf i rannu gwybodaeth am sesiynau hyfforddi.

 

Ystyriwch y canlynol

  • Mae'n bosibl nad yw'r rhan fwyaf o gymunedau gan gynnwys ysgolion yn gwybod pa glybiau sy'n bodoli yn eu hardal leol (neu beth rydych yn ei gynnig).
  • Mae cyfathrebu yn allweddol i gysylltiad clwb ysgol da, felly bydd cael y cyswllt clwb cywir yn helpu i ffurfio perthynas gref gyda'r ysgol.
  • Sut y mae modd i'ch clwb fod o fudd i'r ysgol trwy gynnig cyfle i blant roi cynnig ar gamp newydd, eu helpu i gynyddu eu lefelau gweithgarwch corfforol, darparu llwybr allan i glwb cymunedol, a hyrwyddo byw'n iach / lles da.

 

Sut y mae modd i gysylltiadau clybiau ysgol weithio?

Mae modd i glybiau...

  1. Ddarparu cyswllt clwb addas i gyfathrebu gyda'r ysgol.
  2. Darparu hyfforddwyr (sy'n gymwysedig ac sydd wedi derbyn gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ac offer i ddarparu sesiynau blasu ar safle'r ysgol.
  3. Darparu cyswllt ysgol i gyfathrebu â'r clwb..
  4. Cyflwyno rhaglen ar safle'r ysgol (clwb ar ôl ysgol) neu ddarparu achlysur/gŵyl yn y clwb.
  5. Ymgyfarwyddo ag anghenion yr ysgol (pa chwaraeon/timau y maen nhw'n eu cynnig a/neu'r hoffen nhw eu cynnig).

Mae modd i ysgolion...

  1. Hyrwyddo'r clwb o fewn yr ysgol; dosbarthu deunyddiau hyrwyddo a/neu hysbysebu i rieni trwy neges destun/cyfryngau cymdeithasol/gwefan.
  2. Darparu cyfleusterau a slotiau amser sydd ar gael i'r clwb ymweld â nhw a chynnig sesiynau blasu.
  3. Darparu cyswllt ysgol i gyfathrebu â'r clwb.
  4. Defnyddio llysgenhadon chwaraeon/ifainc i hyrwyddo'r clwb i'w disgyblion eraill.
  5. Hyrwyddo’r clwb yn rhan o agenda byw’n iach/lles yr ysgol.

 

Enghraifft: Darllenwch sut y gwnaethom helpu Rhondda Dodgeball i ennill aelodau iau newydd.

 

Sut y mae modd i ni helpu?

  • Byddwn ni'n helpu eich clwb i ddod o hyd i ysgolion addas.
  • Byddwn ni'n eich cyflwyno chi i'r ysgol(ion) a gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng yr ysgol a'r clwb.
  • Byddwn ni'n darparu cymorth gyda sesiynau blasu a/neu achlysuron (gan ddarparu hyfforddwyr, offer, cyfleusterau o bosibl)..
  • Byddwn ni'n darparu cefnogaeth gyda deunyddiau hyrwyddo (taflenni, posteri a thocynnau aur)..

 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas