Skip to main content
 

Chwaraeon yn y Gymuned - Newyddion Diweddaraf

Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru

Rydyn ni’n falch iawn i roi gwybod i chi bod modd gwneud cais ar gyfer Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Mae modd derbyn grantiau o £300 i £50,000 er mwyn cefnogi clybiau chwaraean a sefydliadau cymunedol ledled Cymru.

Mae newidiadau pwysig wedi'u gwneud ar gyfer 2025/26.

Manylion Allweddol:

  • Bydd tri chyfle i wneud cais y flwyddyn yma: 
    • Cyfle 1: 9am dydd Mercher 2 Ebrill – 4pm dydd Mercher 4 Mehefin 2025 
    • Cyfle 2: 9am dydd Mercher 9 Gorffennaf   4pm dydd Mercher 17 Medi 2025
    • Cyfle 3: 9am dydd Mercher 5 Tachwedd 2025 – 4pm dydd Mercher 14 Ionawr 2026
  • Pwrpas: Mae cyllid ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd, ac arloesedd mewn chwaraeon. Mae hynny'n cynnwys prynu offer, gwella cyfleusterau, a chyllid i gefnogi datblygiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr. 
  • Gofynion Cyfraniadau: Am grantiau rhwng £300 a £25,000, rhaid cyfrannu 10% o gyfanswm yr holl gynllun. Ar gyfer grantiau rhwng £25,001 a £50,000, rhaid cyfrannu 20% o'r cyfanswm. Mae cyllid ar gyfer eitemau gwerth uchel, megis llifoleuadau, wedi'i gyfyngu i 50% o gyfanswm cost y cynllun. 
  • Nodwch, mae modd i bob clwb cyflwyno un cais llwyddianus y flwyddyn.

Rhagor o wybodaeth yma: Cronfa Cymru Actif - Cyllid ar gyfer clybiau chwaraeon a sefydliadau yn y gymuned | Chwaraeon Cymru | Chwaraeon Cymru.


 

Dyma sut mae modd i ni eich helpu:

Mae ein carfan yma i roi cymorth i chi wrth i chi gyflwyno cais. Mae modd i ni:

  • Rhoi arweinyddiaeth ynglŷn â chymhwysedd a gofynion y cais.
  • Eich helpu chi i ddatblygu cais cryf sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r gronfa.
  • Ateb y cwestiynau sydd gyda chi yn ymwneud â'r broses.
  • Rydyn ni’n cynnig llythyr o gefnogaeth ar gyfer unrhyw glwb sydd wedi'i achredu gan Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn 2025.

Os oes diddordeb gyda chi mewn gwneud cais neu pe hoffech chi ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â'r Garfan Chwaraeon yn y Gymuned. Dewch i weithio â ni er mwyn manteisio ar y cyllid yma ar gyfer eich clwb chi.

Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â'r cymorth sydd ar gael i glybiau i'w gweld ar ein gwefan. Rydyn ni'n annog pob clwb i gofrestru â'r cynllun achredu Chwaraeon Rhondda Cynon Taf er mwyn derbyn cymorth yn ystod 2025: Achredu Clybiau Chwaraeon Rhondda Cynon Taf.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas