Skip to main content

Tipio'n anghyfreithlon

 
Os ydych chi'n tipio gwastraff lle na ddylech chi, rydych chi'n torri'r gyfraith ac mae modd i chi gael cofnod troseddol, gyda dirwyon o hyd at £50,000 neu 12 mis o garchar. Mae modd i droseddwyr tipio mwy difrifol dderbyn dirwy ddiderfyn a hyd at 5 mlynedd o garchar o'u cael yn euog yn Llys y Goron.

Mae modd i Rondda Cynon Taf osod Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i bobl sy'n tipio'n anghyfreithlon dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Pan yw’n digwydd ar 'raddfa fach' h.y. 4 neu 5 bag du neu eitem unigol
  • O ddal rhywun yn troseddu am y tro cyntaf
  • Os yw'r gwastraff yn dod o eiddo domestig

Os ydy'r bobl sy'n cael eu dal yn tipio mwy na 5 bag, os nad hwn yw’r drosedd gyntaf neu os ydyn nhw’n gwaredu Gwastraff Masnachol, bydd y mater yn cael ei drin drwy'r Llysoedd.

Talwch eich dirwy Tipio Anghyfreithlon