Skip to main content

Talu Dirwy Amgylcheddol (Hysbysiad Cosb Benodedig)

Mae Hysbysiad Cosb Benodol yn rhoi cyfle i droseddwr wrthod unrhyw atebolrwydd i euogfarn am drosedd - sy'n golygu bod modd i droseddwr osgoi cael ei erlyn ac osgoi cofnod troseddol drwy gydnabod y drosedd a thalu dirwy

Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Hysbysiadau Cosb Benodol yn cael eu cyflwyno am y troseddau Amgylcheddol canlynol:

TroseddSwm yr Hysbysiad Cosb Benodedig

Gollwng Sbwriel - Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 / Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 

 £100

Gosod posteri’n anghyfreithlon - Deddf Priffyrdd 1980 / Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003

 £100

Baw cŵn -  a chŵn mewn mannau gwaharddedig  - Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014

 £100

Dyletswydd Gofal (Masnachol) - Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 £300

Dyletswydd Gofal (Domestig) - Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 / Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019

 £300

Tipio anghyfreithlon - Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 / Rheoliadau Dyddodi Gwastraff Heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017

 £400

Mae modd i chi dalu pob un o'r dirwyon uchod ar-lein 
Mae modd i chi hefyd dalu drwy ffonio 01443 827360

Anghydfodau

Does dim proses apelio ffurfiol ar gyfer Hysbysiadau Cosb Benodol. Os ydych chi'n anghytuno eich bod chi wedi cyflawni trosedd, mae modd i chi benderfynu peidio â thalu'r Hysbysiad Cosb Benodedig, ac yna bydd y mater yn cael ei benderfynu gan Lys.

Serch hynny, mae'n bosibl bydd hyn yn ddrud ac yn llafurus i'r ddau barti. O ganlyniad, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf broses fewnol ar gyfer datrys anghydfodau a gall hyn helpu i ddatrys anghydfodau cyn iddyn nhw gyrraedd y Llys.

Mae rhagor o wybodaeth am anghydfodau posib ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin