Mae Hysbysiad Cosb Benodedig yn rhoi cyfle i droseddwr wrthod unrhyw atebolrwydd i euogfarn am drosedd - sy'n golygu bod modd i droseddwr osgoi cael ei erlyn ac osgoi cofnod troseddol drwy gydnabod y drosedd a thalu dirwy
Does dim proses apelio ffurfiol ar gyfer Hysbysiadau Cosb Benodedig. Os ydych chi'n anghytuno eich bod chi wedi cyflawni trosedd, mae modd i chi wrthod talu'r Hysbysiad Cosb Benodedig. Os felly, bydd y mater yn cael ei benderfynu gan Lys.
Serch hynny, mae bosibl bydd hyn yn ddrud ac yn llafurus i'r ddau barti. O ganlyniad, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf broses fewnol ar gyfer datrys anghydfodau cyn iddyn nhw gyrraedd y Llys.
Pryd mae modd i chi apelio yn erbyn Hysbysiad Cosb Benodedig?
Mae achosion lle mae sail gadarn i chi herio'r Hysbysiad yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, enghreifftiau lle mae modd i chi brofi:
- Gafodd ddim trosedd ei chyflawni, neu os oes camgymeriad wrth i'r Hysbysiad Cosb Benodedig gael ei roi, er enghraifft, lle mae gorchymyn rheoli cŵn yn amherthnasol neu os oes gan y person eithriad cyfreithiol
- Bod y drosedd wedi'i chyflawni gan rywun arall
- Bod y drosedd ddim yn fai ar y person a dderbyniodd yr
- Hysbysiad, a bod dim byd allen nhw wneud i atal y drosedd.
- Ddylen ni ddim bod wedi cyflwyno'r Hysbysiad am fod y troseddwr dan 17 oed, neu ag anallu corfforol neu feddyliol neu anabledd arall sy'n ei atal rhag deall ei fod wedi troseddu.
- Bod amgylchiadau arbennig sy'n effeithio ar allu unigolyn i gadw at y gyfraith.
- Bod cyflwyno'r Hysbysiad ddim o les i'r cyhoedd - fodd bynnag, mae gan CBS Rhondda Cynon Taf ddyletswydd i gadw at y gyfraith ac mae Hysbysiadau Cosb Benodol yn ffordd effeithiol a rhwydd o ddelio â mân droseddau.
Wrth gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig, mae gyda ni dystiolaeth bod yr unigolyn sy'n derbyn yr Hysbysiad wedi troseddu. Mae modd i hyn gynnwys tystiolaeth fideo, llun neu dystiolaeth llygad dyst o'r digwyddiad. O ganlyniad, bydd rhaid i chi ddangos yn glir eich rhesymau am apelio yn erbyn yr Hysbysiad. Bydd rhaid i chi gyflwyno'r dystiolaeth sydd gennych chi - lluniau, tystion ayyb - i ni allu ystyried eich apêl yn llawn.
Mae nifer o resymau lle dydyn ni ddim yn ystyried apeliadau, ac mae'r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Anwybodaeth am y gyfraith - y maen prawf yw a fyddai person rhesymol yn ymwybodol ei fod wedi troseddu - mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod dylen nhw ddim gollwng sbwriel na gadael i'w cŵn faeddu. Mae'n ofynnol ar adegau i ddangos hysbysiadau i atgoffa pobl o'r gyfraith, ond dyw hyn ddim yn berthnasol ymhob man nac i bob deddfwriaeth. Does dim rhaid i'r hysbysiadau hynny fod yn yr union fan rydych chi'n troseddu chwaith
- Dyw prinder biniau sbwriel neu finiau baw cŵn ddim yn rheswm dros herio’ch Hysbysiad.
- Doeddech chi ddim yn gwybod eich bod wedi troseddu - y maen prawf yw a fyddai person rhesymol yn gwybod beth oedd wedi digwydd - er enghraifft, mae hyn yn cynnwys gwybod lle mae'ch ci chi a beth mae e'n ei wneud er mwyn i chi allu glirio ar ei ôl
- Eich bod wedi codi'r sbwriel neu'r baw ci ar ôl i Swyddog ddod atoch chi. Bydd y Swyddog ond yn dod atoch chi unwaith i'r drosedd gael ei chyflawni
- Doedd dim modd i chi atal y drosedd - y maen prawf yw a fyddai person rhesymol yn gallu cymryd camau i atal y drosedd rhag digwydd - er enghraifft, drwy gadw eich ci dan reolaeth rhag iddo fynd i ardal waharddedig neu sicrhau nad yw'n dianc o'ch cartref.
- Mân drosedd oedd hi - dyna'r union reswm i chi dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig, er mwyn bod modd i chi osgoi mynd i'r Llys. Mae modd erlyn troseddau mwy difrifol yn syth bin
- Dyw hi ddim er lles y cyhoedd i gosbi'r drosedd - er mai troseddau bychain yw'r rhain, mae sbwriel a baw ci ayyb yn bryder i nifer o drigolion lleol, ac mae CBS Rhondda Cynon Taf yn ymateb i'r pryderon hynny drwy weithredu'r gyfraith. Mae'r Awdurdod hefyd yn gwario arian sylweddol yn glanhau'r strydoedd, felly os oes modd rhwystro pobl rhag gollwng sbwriel a gadael i'w cŵn i faeddu, mae'n gwneud y gwaith hynny'n haws.
Sut rydyn ni'n delio ag Anghydfodau
Os bydd CBS Rhondda Cynon Taf, neu unrhyw un sy'n gweithio ar ein rhan, yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig i chi ond rydych chi'n anghytuno eich bod chi wedi troseddu neu'n teimlo ei fod wedi bod yn afresymol i ni gyflwyno'r Hysbysiad, mae modd i chi gyflwyno eich dadl yn erbyn yr Hysbysiad drwy ysgrifennu at y Swyddog Apeliadau Dirwyon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Tŷ Glantaf, Uned B23, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, CF37 5TT. O.N. BYDDWN NI'N YSTYRIED DADLEUON YSGRIFENEDIG YN UNIG.
Caiff pob apêl:
- Ei hystyried ar ei haeddiant, ar sail yr wybodaeth a thystiolaeth sydd wedi'u darparu gan y sawl sy'n apelio a gan y person a roddodd yr Hysbysiad.
- Ymateb ysgrifenedig llawn o fewn 10 diwrnod gwaith, fel rheol. Fodd bynnag, mae modd i
- hyn gymryd mwy o amser mewn achosion mwy cymhleth.
Os caiff yr apêl ei gwrthod, bydd y rhesymau dros ei gwrthod yn cael eu hesbonio a bydd cyfnod o 28 diwrnod pellach yn cael ei roi ar gyfer talu.