Mae baw cŵn yn broblem fawr yn Rhondda Cynon Taf ac mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â pherchnogion anifeiliaid anghyfrifol.
Mae gan y Cyngor garfan benodol o swyddogion Gorfodi a Chodi Ymwybyddiaeth sy'n gweithio i gadw'r Fwrdeistref Sirol yn lân, heb faw cŵn niweidiol. Byddwch yn derbyn dirwy os na fyddwch yn codi baw eich ci a'i waredu'n gyfrifol.
Mae modd i chi dalu eich Hysbysiad Cosb Benodedig drwy ddefnyddio'r dolenni ar-lein isod:
Talu Hysbysiad Cosb Benodedig
Nodwch: byddwn ni'n defnyddio system dalu newydd ar gyfer pob dirwy sy'n cael ei chyhoeddi ar neu ar ôl 1 Hydref 2025. O ganlyniad hyn, byddwn ni'n cynnal dwy system dalu hyd nes y bydd pob dirwy sydd wedi'i chyhoeddi cyn y dyddiad yma wedi'i thalu.
Gwiriwch nifer y digidau yng nghyfeirnod eich Hysbysiad Cosb Benodedig wrth ddewis y system gywir pan fyddwch chi'n talu.
Talu Hysbysiad Cosb Benodedig
Mae modd i chi dalu Hysbysiad Cosb Benodedig ar-lein.