Skip to main content

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Baw Cŵn a Chŵn mewn Mannau Gwaharddedig)

Yn dilyn proses ymgynghori â thrigolion, cyflwynodd y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar 1 Hydref 2017. Mae'r gorchymyn yn rhoi rheolau baw cŵn newydd ar waith yn y Fwrdeistref Sirol.

Dywed y Gorchymyn:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi baw cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • RHAID i berchnogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared ar y baw ar bob adeg.
  • RHAID i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Mae cŵn wedi'u GWAHARDD o bob ysgol, maes chwarae i blant ac ardaloedd sydd wedi'u marcio dan ofal y Cyngor.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg mewn mynwentydd mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.
  • Talu eich dirwyon cŵn yn baeddu, neu gŵn mewn mannau gwaharddedig

Talu eich dirwyon cŵn yn baeddu, neu gŵn mewn mannau gwaharddedig