Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd
Dewiswch yr Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd ar y dudalen nesaf ar eich cyfeirnod 9 digid gan ddechrau gyda 3.
Beth mae'r Cyngor yn ei wneud am graffiti?
Rydyn ni'n cymryd pob achos o graffiti o ddifrif. Os bydd y graffiti o natur ymosodol neu sarhaus, byddwn ni'n ceisio cael gwared arno neu baentio drosto o fewn diwrnod gwaith o gael gwybod am yr achos. Mae graffiti sarhaus, difrïol, tramgwyddus, neu gas yn cynnwys unrhyw iaith frwnt; datganiadau sy'n hiliol, yn wleidyddol neu'n grefyddol; neu unrhyw lun neu sylw anweddus.
Byddwn ni'n ceisio cael gwared ar graffiti sydd ddim yn ddifrïol, tramgwyddus, cas, sarhaus, neu ddifenwol o fewn pum niwrnod gwaith o gael gwybod amdano.
Byddwn ni'n cael gwared ar graffiti sarhaus, difrïol, tramgwyddus, a chas o unrhyw eiddo, a graffiti sydd ddim yn sarhaus, difrïol, tramgwyddus, neu gas o holl eiddo'r Cyngor.
Er mwyn cael gwared ar graffiti'n gyflym, mae tair carfan ymateb brys gyda ni. Mae'r carfanau hyn hefyd yn cael gwared ar bosteri anghyfreithlon a gwm cnoi.
Sut rydw i'n rhoi gwybod i'r Cyngor am graffiti?
Hoffech chi roi gwybod i ni am graffiti? Defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.
Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys:
- Ble mae'r graffiti?
- Ydy'r graffiti ar dŷ, wal, pont, cysgodfa bws ac ati?
- Ydy'r graffiti ar bwys tirnod (swyddfa'r post, tafarn, cofeb ac ati)?
- Beth yw'r graffiti?
- Ydy'r graffiti yn hiliol, yn ymosodol neu'n sarhaus?
- Ydy'r graffiti yn cynnwys geiriau neu luniau?
- Ar ba fath o wyneb mae'r graffiti?
- Ydy'r graffiti ar friciau, gro chwipio (pebble-dash), drysau rholio, paneli pren ac ati?
- Pa liw mae'r graffiti?
- Ydy'r graffiti yn baent chwistrell lliw, yn farciwr du ac ati?
- Ydy'r graffiti ar eiddo'r Cyngor neu ar eiddo perchennog preifat?
- Welsoch chi'r troseddwr?
Os gwelsoch chi'r unigolyn neu'r bobl sy'n gyfrifol am y graffiti, rhowch yr wybodaeth ganlynol i ni:
- Pryd digwyddodd yr achos?
- Pa ddiwrnod roedd hi? Faint o'r gloch roedd hi? Beth oedd y dyddiad?
- Beth welsoch chi?
- Faint o bobl oedd yn gyfrifol am y difrod?
- Ydych chi'n gallu eu disgrifio nhw?
- Beth oedden nhw'n ei wneud?
- Oedd unrhyw gerbydau ganddyn nhw?
- Beth oedd lliw, gwneuthuriad a rhif cofrestru'r cerbyd?
- Ble roeddech chi?
- Pa mor agos roeddech chi?
- Oeddech chi'n gallu gweld yn glir?
- Sut dywydd roedd hi?
- Pa mor olau oedd hi?
Ydych chi'n barod i'n helpu ni i ddwyn achos yn erbyn pobl sy'n difrodi eiddo trwy wneud datganiad am y digwyddiad?
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Gwasanaeth Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310