Skip to main content

Work & Skills

 

Hysbysiad yn ymwneud â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Rhaglenni Gwaith a Sgiliau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru (Cymunedau am Waith a Mwy) a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau).

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion rhaglenni cyflogadwyedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau)).

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol a brosesir at ddibenion Rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau)).

Mae'r Cyngor wedi cofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Garfan Gwaith a Sgiliau:

E-bost: gwaithasgiliau@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425761

Drwy anfon llythyr at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau) - Carfan Ganolog, Tŷ Elái, Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, RhCT.  CF40 1NY.

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae carfan Gwaith a Sgiliau'r Cyngor yn darparu cyfleoedd hyfforddi a chymorth cyflogaeth i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf.  

Ariennir y Rhaglenni Gwaith a Sgiliau gan y canlynol:

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Grant Pobl a Sgiliau 
  • Llywodraeth Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol i ddarparu Rhaglenni Gwaith a Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau));

  • Unigolion sy'n atgyfeirio i'n gwasanaeth ac yn cofrestru i gymryd rhan yn y gweithgareddau rydyn ni yn eu darparu yn rhan o raglenni a ariennir gan gyllid grant.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu’r categorïau canlynol o ddata personol er mwyn darparu cymorth a deilliannau yn rhan oRaglenni Gwaith a Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau)), ac er mwyn amlygu’r cymorth a’r deilliannau a’u dadansoddi

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Manylion personol, gan gynnwys dyddiad geni a Rhif Yswiriant Gwladol.
  • Amgylchiadau personol unigol gan gynnwys statws budd-daliadau, profiad o ran cyflogaeth a lefel cyrhaeddiad addysgol, nodau personol a rhwystrau i gyflogaeth.
  • Gwybodaeth cyfleoedd cyfartal (dienw a dewisol).
  • Dewis iaith.
  • Presenoldeb mewn gweithgareddau.
  • Cynnydd a chyflawniadau yr unigolion ar ôl derbyn cymorth.

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol i ddarparu ein gwasanaethau Gwaith a Sgiliau.

  Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Defnyddir gwybodaeth bersonol i deilwra’r cymorth sy’n cael ei ddarparu i gyfranogwyr y rhaglen ac mae'n caniatáu i ni ddarparu gwybodaeth am ba gymorth a gweithgareddau sydd ar gael. 
  • Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn gwneud atgyfeiriadau at sefydliadau partner eraill yr ymddiriedir ynddyn nhw (y tu allan i’r rhaglen) ar ran unigolyn. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

Yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r data personol i ddarparu Rhaglenni Gwaith a Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau)) yw:

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Gwybodaeth a ddarperir yn uniongyrchol gan gyfranogwyr y rhaglenni sy'n cwblhau ffurflenni cofrestru/cyfeirio cyn derbyn cymorth neu gymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Gwybodaeth a ddarperir gan bartneriaid yn y sector gwirfoddol sy'n darparu gweithgareddau ar ein rhan lle mae cyfranogwyr yn cwblhau ffurflenni cofrestru cyn derbyn cymorth neu fynychu gweithgareddau.  Mae'r sefydliadau yma'n cynnwys:  YMCA Hirwaun, Your Future Training, Adfywio Cymuned Glyn-coch, Cymdeithas Cymuned y Gilfach-goch, Partneriaeth Fern, Plant y Cymoedd, Prosiectau Ieuenctid Blaenllechau and Bryn y Rhedyn.
  • Gwybodaeth a ddarperir gan adrannau eraill yn y Cyngor lle mae cyfranogwyr angen cymorth cyflogaeth ac wedi gofyn amdano neu i gael mynediad at weithgareddau rhaglen e.e. Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Gwybodaeth a ddarperir gan bartneriaid a sefydliadau eraill e.e. atgyfeiriadau gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf, Cymdeithasau Tai, rhaglenni cymorth cyflogaeth eraill gan gynnwys y rhai a ddarperir gan Maximus, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.
  • Gwybodaeth a ddarperir gan adrannau eraill yn y Cyngor sy’n cefnogi cyflwyno’r rhaglenni gan gynnwys e.e. Addysg i Oedolion a Gwasanaethau Hamdden.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â'r sefydliadau allweddol canlynol er mwyn darparu Rhaglenni Gwaith a Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau)).

Dim ond y lleiafswm o ddata personol sydd eu hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael eu rhannu.

Pwy

Diben

Sefydliadau partner yn y sector gwirfoddol

Mae sefydliadau'n darparu gweithgareddau yn rhan o'r gwasanaeth

Gwasanaethau eraill y Cyngor

Cymorth gyda chyflogaeth

Mynediad i weithgareddau’r rhaglen

Cefnogi gwaith darparu’r rhaglenni

Partneriaid dibynadwy a sefydliadau eraill

Atgyfeiriadau i bartneriaid a sefydliadau, h.y. Byrddau Iechyd ac ati ac oddi wrthyn nhw

Darparwyr hyfforddiant

Hwyluso a chyflwyno hyfforddiant

Cadarnhau a dangos tystiolaeth o gynnydd neu gyflawniadau h.y. cymwysterau ac ati

Sefydliadau a darparwyr gwasanaethau dibynadwy eraill

Darparu cyngor a/neu gymorth sydd ddim ar gael drwy ein rhaglenni. Byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd i wneud hyn pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer ein rhaglenni.

Llywodraeth Cymru

Cydymffurfio/hysbysu amodau grant

Llywodraeth Ganolog

Cydymffurfio/hysbysu amodau grant

Proseswyr Data

Mae prosesydd data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni’n eu defnyddio at ddiben Rhaglenni Gwaith a Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau)):

-       Darparwyr Systemau TG

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw’r data personol sydd wedi’i gynnwys yng nghofnodion Rhaglenni Gwaith a Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau)) ar gyfer:

Faint o amser

Rheswm

Hyd y gronfa grant + 7 mlynedd

Dyma ofyniad sydd wedi’i bennu gan y sawl sy’n cyllido’r grant e.e. Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael ei gadw am y cyfnod cadw cyfan (e.e. dogfennau sy'n cynnwys asesiadau, penderfyniadau, deilliannau ac ati).   Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â Charfan Gwaith a Sgiliau'r Cyngor yn uniongyrchol gan ddefnyddio un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

E-bost: GwaithaSgiliau@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425761

Drwy anfon llythyr at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cymunedau am Waith a Mwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (Pobl a Sgiliau) - Carfan Ganolog, Tŷ Elái, Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, RhCT.  CF40 1NY.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk