Skip to main content

Helpu Cymuned Ein Lluoedd Arfog

Darryl Lewis

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr Lluoedd Arfog y Cyngor yn cefnogi cannoedd o Gyn-filwyr a'u teuluoedd drwy'r flwyddyn. Ymhlith y rheiny y mae'n eu helpu mae Darryl Lewis, o Gwm Rhondda, aelod o grŵp Valley Veterans.

Mae Darryl Lewis, a wasanaethodd am dair blynedd yn grefftwr gyda Chorfflu'r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol, yn ddiolchgar i Wasanaeth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog am y gefnogaeth a gafodd.

Meddai Darryl Lewis: “Mae grŵp Valley Veterans yn grŵp hunanofal, sy’n helpu ein gilydd, ond mae angen help arnon ni i gyd ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yno i'n cefnogi a'n helpu ni pryd bynnag y mae angen cymorth arnon ni, ac mae'n dyled yn fawr iddo.

“Ymhlith pethau eraill, fe wnaeth y Gwasanaeth fy helpu i gael tocyn bws. Pethau bach fel yna sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywyd ac annibyniaeth rhywun. Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yn gyswllt hanfodol i ni.”

Yn ystod ei amser ar wasanaeth gweithredol gyda'r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol, darparodd Mr Lewis gefnogaeth beirianyddol i'r Fyddin drwy gynnal a chadw ac atgyweirio ei hoffer, boed hi'n amser rhyfel neu heddwch.

Mae'r Corfflu hwnnw'n mynd ble bynnag mae'r Fyddin, gartref neu dramor. Mae'n darparu hyfforddiant a chymwysterau, yn ogystal â chyfleoedd o ran gyrfaoedd.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae arnon ni ddyled fawr i gymuned ein Lluoedd Arfog, i’n Cyn-filwyr a'u teuluoedd ddoe a heddiw. Byddwn ni yno bob amser i'w helpu pan fo angen.

“Mae gyda swyddogion Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor gyfoeth o wybodaeth er mwyn helpu i wneud bywyd ychydig yn haws i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r Lluoedd Arfog. Mae modd i deuluoedd ein Cyn-filwyr fanteisio ar y gwasanaeth yma hefyd. Maen nhw'n aml yn rhannu'r baich mae eu hanwyliaid yn eu hwynebu wrth fynd i ryfel."

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain

Mae cynrychiolwyr o Wasanaeth i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yn mynychu Clybiau Brecwast a chyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf yn rheolaidd, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol os oes angen. Maen nhw'n cynnig ystod eang o gymorth a gwybodaeth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma, Materion Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth. 

Y Gwasanaeth i Gyn-filwyr

Combat Stress – 0800 138 1619

Help For Heroes – 0300 303 9888

SSAFA – 0800 260 6767

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor ar gael i gynnig help, cymorth ac arweiniad cyfrinachol AM DDIM i'r sawl sydd eu hangen. Ffoniwch 07747 485 619 neu e-bostio: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 10/11/2021