Skip to main content

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

War-Memorial

Mae Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd yn cael eu cynnal ddydd Sul, 14 Tachwedd.

Mae'r achlysur cyhoeddus, sydd wedi'i drefnu gan y Cyngor, y Lleng Brydeinig Frenhinol a Chyngor Tref Pontypridd, yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, sy'n dathlu ei ganmlwyddiant yn 2023.

Gyda'r cyfyngiadau COVID-19 bellach wedi'u llacio ledled Cymru, mae pobl Rhondda Cynon Taf unwaith eto yn gallu mynychu Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd ar ôl 18 mis anodd iawn oherwydd y pandemig.

Rydyn ni'n cynghori'r rhai sy'n bresennol i ddefnyddio'r gorsafoedd diheintio dwylo o amgylch y parc ar y diwrnod, i wisgo gorchuddion wyneb os ydyn nhw'n teimlo'n gyffyrddus yn gwneud hynny ac i fod yn effro i bobl eraill o'u cwmpas bob amser, er budd diogelwch y cyhoedd.

Cyn y Gwasanaeth wrth y Gofeb Ryfel yng nghanol y parc, bydd yr Orymdaith yn dilyn llwybr 0.87 cilomedr o amgylch y parc.

Gwahoddir yr holl gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog yn RhCT i fod yn rhan o'r Orymdaith, i orymdeithio y tu ôl i'r baneri a'r cludwyr baneri swyddogol. Bydd y gorymdeithwyr yn ymgynnull ar y cyrtiau tenis yn y parc yn brydlon am 10.25am. Bydd yr Orymdaith yn cychwyn am 10.35am.

Meddai’r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Roedd y llynedd yn flwyddyn wahanol iawn a doedd dim modd i'n trigolion na’n cymunedau lleol nodi Sul y Cofio yn y ffordd arferol.

“Eleni, fodd bynnag, mae modd i ni wneud hynny mewn amgylchedd diogel a threfnus. Mae Sul y Cofio yn ddiwrnod pwysig i bob un ohonon ni ddod at ein gilydd unwaith eto a thalu teyrnged i drigolion ein Bwrdeistref Sirol a wnaeth yr aberth eithaf gartref a thramor wrth wasanaethu eu gwlad.

“Mae arnon ni gymaint o ddyled i'n cymuned Lluoedd Arfog a rhaid i ni gofio am ein cyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gwahodd pob cyn-aelod o'r Lluoedd Arfog o bob oed i ymuno â'n Gorymdaith Sul y Cofio ym Mharc Coffa Ynysangharad ddydd Sul."

Bydd yr Orymdaith Sul y Cofio yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysagharad. Bydd yn teithio i fyny'r Goedlan Fawr ac yn dilyn y prif lwybr y tu ôl i'r safle seindorf i'r Gofeb Ryfel, pellter o 870 metr.

Bydd dwy funud o ddistawrwydd yn dechrau am 11am. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan wasanaeth Sul y Cofio a gosod torchau pabi ar y Gofeb Rhyfel.

Bydd Gwasanaethau Sul y Cofio hefyd yn cael eu cynnal ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf ar yr un pryd. Bydd trigolion, busnesau a chymunedau lleol yn talu teyrnged i'r dynion a menywod dewr a wnaeth yr aberth eithaf.

Dywedodd y Cynghorydd Cymunedol Simon Pritchard, Arweinydd Cyngor Tref Pontypridd: "Eleni, rydw i'n edrych ymlaen at gael y cyfle i dalu teyrnged yng Ngwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd a gwneud hynny mewn ffordd sy’n caniatáu i ragor o bobl fod yn bresennol nag oedd yn bosibl y llynedd.

“Mae ein dyled yn fawr i gymuned ein Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw ac rydw i'n siŵr y bydd pobl Pontypridd a’r cymunedau cyfagos yn dod yn llu i dalu eu teyrnged bersonol eu hunain ar y diwrnod.”

Cafodd Parc Coffa Ynysangharad ei roi i bobl y dref yn gofeb swyddogol i'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf dros eu gwlad, dramor ac yma yn y DU. Ym 1923, agorodd y Cadlywydd yr Is-iarll Allenby y parc yn swyddogol fel Parc Coffa.

Mae Rhestr y Gwroniaid ym Mharc Coffa Rhyfel Ynysangharad, yn yr Ardd Goffa, yn coffáu'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod rhyfel. Mae yna hefyd Gofeb Rhyfel y Falklands wedi'i chysegru i'r Gwarchodlu Cymreig hynny o'r ardal leol a fu farw mewn brwydr dros ryddid.

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth cyfrinachol AM DDIM i gyn-filwyr a'u teuluoedd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Gwasanaeth i Gyn-filwyr RhCT, yn gwbl gyfrinachol, ar 07747 485 619 neu anfonwch e-bost at: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 12/11/2021