Skip to main content

Sesiynau beicio am ddim ar gael i oedolion yn ystod yr haf eleni

Free cycling sessions this summer

Bydd ein Carfan Diogelwch y Ffyrdd yn cynnig sesiynau seiclo am ddim dros yr haf eleni i oedolion sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ac sy'n awyddus i fagu hyder wrth seiclo ar y ffyrdd.

Bydd y sesiynau hefyd yn cwmpasu sut i gynllunio teithiau er mwyn annog pobl i seiclo i'r gwaith/coleg, yn ogystal â sgiliau gofalu am feic.

Bydd yr hyfforddiant ar gael o fis Gorffennaf hyd at fis Medi 2023 a bydd modd teilwra'r sesiynau at anghenion yr unigolyn.

Pe hoffech chi gymryd rhan yn yr hyfforddiant am ddim yma neu holi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch DiogelwchyFfyrdd@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 18/04/23