Skip to main content

Diogelu ein cofebion ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

war memorialre-sized

Rydyn ni'n gwahodd gwirfoddolwyr i helpu i ymchwilio i'r enwau sydd wedi'u nodi ar gofebion rhyfel, gyda'r nod o gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am fywydau'r rheiny a frwydrodd ac a aberthodd eu bywydau yn enw rhyddid.
Mae 117 o gofebion rhyfel ym mharciau a chapeli Rhondda Cynon Taf ac ar hyd y ffyrdd. Maen nhw'n coffáu'r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd ac yn anrhydeddu'r rhai a frwydrodd yn Rhyfel y Falklands a Rhyfel Cartref Sbaen, gyda chysegriadau i wrthdaro mwy diweddar hefyd.
Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu rhaglen fuddsoddi gwerth £200,000 dros y 5 mlynedd nesaf yn rhan o'i ymrwymiad parhaus i'r Lluoedd Arfog. Bydd y cyllid yma'n caniatáu i'n Swyddog Treftadaeth a Henebion ddatblygu rhaglen fuddsoddi a gwella ar gyfer cofebion rhyfel.
Bydd rhan o'r rhaglen yn caniatáu i Garfan Dreftadaeth y Cyngor ddechrau ar brosiect 3 blynedd newydd, i ddigideiddio pob cofeb i ddynion a merched dewr ein Bwrdeistref Sirol a frwydrodd ac a gollodd eu bywydau o ganlyniad i wrthdaro. Yn rhan o'r gwaith bydd codau QR yn cael eu gosod ger pob cofeb – bydd modd eu sganio gyda'ch ffon a chael eich arwain at wefan newydd sbon a fydd yn rhannu straeon am yr enwau sydd wedi’u nodi.
 Rydyn ni wedi buddsoddi yn y gefnogaeth sydd ar gael i'n cyn-filwyr ac yn falch o fod yn un o'r Cynghorau cyntaf i gynnig Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae'r Cyfamod yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng cymuned sifil Rhondda Cynon Taf a'r Gymuned Lluoedd Arfog lleol.
Dros y deunaw mis diwethaf mae Carfan y Lluoedd Arfog wedi gweithio'n agos â Chynghorwyr, grwpiau cymuned lleol ac Adran y Priffyrdd ar nifer o brosiectau Cofebion Rhyfel. Mae'r prosiectau yma wedi cynnwys gwaith gwella a chynnal a chadw. Yn ogystal â hyn darparodd y garfan gefnogaeth i'r gymuned yng Nghwm-parc er mwyn agor ei chofeb ryfel newydd.

Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: 

Mae digideiddio Cofebion Rhyfel yn Rhondda Cynon Taf yn brosiect hirdymor ac yn un a fydd, yn y pen draw, yn anrhydeddu pobl ein Bwrdeistref Sirol a frwydrodd yn ddewr ac a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro. Fydd yr wybodaeth a gesglir nid yn unig yn creu darlun ehangach o'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf, ond hefyd yn helpu pobl sy'n dymuno hel achau ac ymchwilio i'w treftadaeth eu hunain. Mae ein llyfrgelloedd yn Aberdâr, Pontypridd a Threorci yn llyfrgelloedd cyfeirio ac mae staff pwrpasol yno i ymateb i ymholiadau a all gynorthwyo unrhyw un sy'n dymuno olrhain eu cyndeidiau. Mae hwn yn brosiect diddorol, a hoffwn i annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes a threftadaeth neu ein Lluoedd Arfog i wirfoddoli.

Mae croeso i bob gwirfoddolwr, efallai eich bod eisoes yn rhan o grŵp sefydledig neu'n unigolyn a hoffai gymryd rhan. Efallai eich bod chi'n gyn-filwr neu'n rhan o'n Lluoedd Arfog ar hyn o bryd. Does dim angen profiad o gynnal gwaith ymchwil gan y bydd pecynnau hyfforddi’n cael eu darparu. Mae modd cynnal ymchwil o gartref a bydd grwpiau yn cwrdd yn rheolaidd i drafod y canfyddiadau ac ateb cwestiynau. Does dim gofyniad amser - mae modd i chi gyfrannu cymaint neu cyn lleied a hoffech chi. 

Byddwn ni'n gweithio gyda phobl ifainc yn ein hysgolion, cadetiaid, y Sgowtiaid a 'girl guides' a SSCE Cymru (Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru).

Rydyn ni hefyd yn croesawu pob aelod o’r cyhoedd yn flynyddol i’n Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio. Eleni, bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ar 12 Tachwedd.

Os hoffech chi drafod y prosiect, mae croeso i chi anfon e-bost ata i'n uniongyrchol.

gwasanaethtreftadaeth@rctcbc.gov.uk  

Am ragor o wybodaeth am y Cyfamod a'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys cymorth i deuluoedd unigolion sy'n gwasanaethu, cymorth â materion cyllid, cyflogaeth a thai, Cronfa Grant y Cyfamod a’r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr, ewch i www.rctcbc.gov.uk/LluoeddArfog.

Wedi ei bostio ar 30/08/23