Skip to main content

Ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yn y dyfodol

Bydd modd i breswylwyr fwrw golwg ar gynigion pwysig ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yn y dyfodol yn fuan. Bydd y cynllun yn buddsoddi ymhellach mewn gwaith lliniaru llifogydd pwysig – gan ychwanegu at y mesurau sylweddol sydd wedi'u cyflawni ers Storm Dennis.

Roedd Pentre yn un o'r cymunedau gafodd ei heffeithio fwyaf yn dilyn glaw digynsail Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Mae gwaith sylweddol wedi cael ei gwblhau bellach er mwyn lliniaru perygl llifogydd yn y dyfodol, ac mae crynodeb o'r gwaith sydd wedi'i gwblhau dros y tair blynedd ddiwethaf wedi'i gynnwys isod. Mae adroddiad Adran 19 o dan y teitl Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021, wedi ein cynorthwyo ni i ddeall achosion y llifogydd yn y gymuned.

Bydd Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yn brosiect fydd yn cael ei gwblhau mewn camau dros nifer o flynyddoedd, er mwyn amddiffyn aelwydydd a'r gymuned ymhellach. Bydd y Cyngor yn cynnal ei ymgynghoriad bedair wythnos o hyd rhwng dydd Llun, 19 Mehefin a dydd Llun, 17 Gorffennaf.

Bydd cyfle i breswylwyr ddysgu rhagor am opsiwn sy'n cael ei ffafrio. Mae'r opsiwn yma'n cael ei ddatblygu ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd. Gan ddibynnu ar gyllid, bydd Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yn fuddsoddiad gwerth miliynnau o bunnoedd mewn seilwaith lleol, gan ddal dŵr glaw yn nalgylch uchaf Pentre a dargyfeirio'r llif drwy gwlfer newydd wedi'i lleoli ar y tir.

Mae'r Cyngor wedi penodi'r ymgynghorydd allanol RPS i gynnal y broses ymgynghori, a bydd tudalen we bwrpasol yn cynnwys 'gofod rhithwir' sy'n arwain y preswylwyr drwy holl gamau'r cynigion. Bydd hefyd yn gyfle i breswylwyr leisio'u barn mewn arolwg. Bydd modd dod o hyd i'r arolwg yma.

Bydd dau achlysur lleol yn cael eu cynnal hefyd yng Nghanolfan Pentre, ble bydd modd i breswylwyr ddysgu rhagor a lleisio'u barn wyneb yn wyneb. Bydd yr achlysuron yma'n cael eu cynnal ddydd Iau, 29 Mehefin a dydd Gwener, 30 Mehefin – byddwn ni'n cadarnhau'r amseroedd yn fuan.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: "Bydd Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yn y dyfodol yn fuddsoddiad pellach yn amddiffynfeydd llifogydd y pentref, ynghyd â'r gwaith sylweddol sydd wedi'i gwblhau yna hyd yn hyn. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi pob un o'i 19 adroddiad Adran 19 yn dilyn Storm Dennis er mwyn archwilio i achosion y llifogydd yn ein cymunedau – Pentre oedd yr ardal gyntaf gwnaethon ni ganolbwyntio arni. Mae wedi ein cynorthwyo ni i ddeall beth ddigwyddodd a beth mae modd ei wneud er mwyn lleihau perygl llifogydd pe bai rhywbeth o'r un fath yn digwydd eto.

"Bydd y cynllun yn y dyfodol yn ceisio datblygu a chyflawni cynllun o fesurau lliniaru llifogydd dros nifer o flynyddoedd, yn unol â chanllawiau perthnasol. Mae ein hymgynghorydd penodedig wedi dadansoddi sawl lleoliad posib ar gyfer y cynllun, drwy lunio gwerthusiad technegol ac economaidd. Mae opsiwn sy'n cael ei ffafrio wedi deillio o'r broses yma sydd bellach yn cael ei datblygu.

"Bydd yr ymgynghoriad sydd i ddod yn rhoi cyfle i'r cyhoedd weld beth sy'n cael ei gynnig a gwerthuso manylion yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio. Rydyn ni'n parhau i fod yng nghamau cynnar y cynllun, ac mae'r ymgynghoriad yma'n cael ei gynnal cyn i unrhyw gais am gyllid gael ei gyflwyno. Mae'r adborth rydyn ni'n ei dderbyn yn y broses yma'n bwysig er mwyn llywio'r cynllun. Byddwn i'n argymell yn gryf bod preswylwyr lleol yn cymryd rhan ar-lein neu wyneb yn wyneb yn un o'r achlysuron i'r gymuned."

Mae'r canlynol wedi cael ei gyflawni ym Mhentre ers Storm Dennis: 

  • Wedi arolygu oddeutu 3.2km o gyrsiau dŵr cyffredin a 5.5km o seilwaith draenio dŵr wyneb. Mae hyn wedi'i fapio a'i adolygu, gan arwain at waith glanhau ac atgyweirio wedi'u targedu. Mae oddeutu 600 tunnell o falurion wedi cael eu clirio o asedau yn dilyn Storm Dennis. 
  • Wedi cwblhau'r gwaith o ddatblygu achos busnes ar gyfer Ardal Strategol Perygl Llifogydd Cwm Rhondda Uchaf, sydd yn cynnwys prosiect peilot i nodi a chwblhau nifer o gynlluniau 'budd cyflym' i reoli perygl llifogydd lleol sydd wedi helpu i gyflawni gwaith pellach yn dilyn Storm Dennis. 
  • Wedi cwblhau gwaith sylweddol yng nghilfach Heol Pentre – cafodd y gwaith yma ei gwblhau ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru. Roedd yn cynnwys gwaith ailadeiladu cilfach cwlfer yn Heol Pentre, gan ganolbwyntio ar reoli malurion a strwythurau gorlifo sy'n rhan o'r prosiect. 
  • Wedi cwblhau cynllun atal llif dros y tir ar Heol Pentre – mae hyn yn cynnwys gosod sawl strwythur draenio ychwanegol er mwyn atal a lliniaru unrhyw lif dros y tir yn ardal cilfach Heol Pentre. 
  • Wedi cwblhau strwythur gorlifo ger Stryd Lewis a Stryd Hyfryd – gosod llwybr rheoli llif dros y tir sy'n ceisio lliniaru llif sy'n cael ei achosi gan dyllau archwilio cwrs dŵr arferol ym Mhentre Isaf. 
  • Wedi cwblhau cynllun dargyfeirio llifogydd ym Mharc Pentre – y nod yw gwella cwlfer cwrs dŵr arferol, drwy osod twll archwilio dalbwll mawr er mwyn lleihau risg malurion yn mynd i mewn i'r cwlfer. 
  • Wedi cwblhau'r cysylltiad i'r system orlif dŵr wyneb ar Stryd Lewis gyda Dŵr Cymru – adeiladu system orlif lefel uchel er mwyn cynyddu gallu'r seilwaith draeniau priffyrdd. 
  • Wedi cwblhau gwaith gwella twll archwilio gorlif ar Stryd y Gwirfoddolwr – gwella twll archwilio cwrs dŵr cyffredin sy'n gorlifo i orsaf bwmpio gerllaw. Mae hyn wedi cynyddu gallu'r seilwaith presennol ac yn darparu cydnerthedd i'r orsaf bwmpio. 
  • Wedi cwblhau gwaith atgyweirio i dyllau archwilio cwrs dŵr cyffredin presennol mewn sawl lleoliad, ar ôl nodi difrod storm. Mae sawl twll archwilio cwrs dŵr cyffredin wedi'u hadnewyddu a'u gwella. 
  • Wedi cwblhau gwaith atgyweirio draeniau priffyrdd ledled cymuned Pentre, i seilwaith gafodd ei rwystro a'i ddifrodi o ganlyniad i Storm Dennis. Nod hyn oedd ceisio gwella gallu seilwaith draenio'r priffyrdd. 
  • Wedi cwblhau gwaith adsefydlu strwythurol i gwlferi'r cwrs dŵr cyffredin ym Mhentre. Cafodd gwaith pellach ei gwblhau oedd wedi adsefydlu sawl cwlfer cwrs dŵr cyffredin yn strwythurol. Nod hyn oedd ceisio lleihau'r risg y bydd y rhwydweithiau'n methu'n strwythurol yn y dyfodol.
Wedi ei bostio ar 12/06/23