Skip to main content

Cabinet i ystyried newidiadau i wasanaeth Gofal yn y Cartref

Yr wythnos nesaf, bydd y Cabinet yn ystyried sut i ddarparu gwasanaeth Gofal yn y Cartref yn y dyfodol. Mae argymhellion y swyddogion i'r Cabinet yn cynnwys cynigion i gomisiynu gofal hir dymor yn y cartref yn allanol o fis Hydref 2024 ymlaen, er mwyn sicrhau cydnerthedd a chynaliadwyedd y gwasanaeth yn y dyfodol heb darfu ar lefel y gofal sy'n cael ei darparu.

Mae Rhondda Cynon Taf yn defnyddio dau ddull sefydledig i ddarparu gwasanaeth gofal yn y cartref - gofal ailalluogi a chanolraddol, a gofal hir dymor yn y cartref. Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth 'Cymorth yn y Cartref' y Cyngor yn darparu 100% o ofal ailalluogi a chanolraddol, fodd bynnag, dim ond oddeutu 10% o ofal yn y cartref hir dymor sy’n cael ei ddarparu gan y Cyngor – gyda’r rhan fwyaf o’r ddarpariaeth wedi’i chomisiynu i ddarparwyr allanol.

Mae'r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 23 Hydref yn cynnig bod y Cyngor yn parhau i ddarparu gofal ailalluogi a chanolraddol trwy ei wasanaeth 'Cymorth Cartref' ac yn comisiynu darparwyr allanol i gyflenwi gofal hir dymor yn y cartref yn rhan o broses aildendro.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r cynigion yma'n ymateb i gynnydd yn y galw am ofal hir dymor yn y cartref ac yn mynd i'r afael â materion capasiti mae darparwyr yn eu hwynebu. Diben y dull arfaethedig yma yw cyflawni model cynaliadwy sydd ddim yn effeithio ar argaeledd y gwasanaeth ond yn hytrach yn ei wella trwy alluogi trefniadau comisiynu hir dymor er mwyn gwella profiadau defnyddwyr a gweithwyr gofal yn y cartref.

"Trwy roi'r dull newydd yma ar waith, byddai'r Cyngor yn parhau i helpu pobl i fod mor annibynnol â phosibl trwy barhau i ddarparu gwasanaeth ailalluogi a chanolraddol ei hun.

"Mae'n bwysig nodi bod y Cyngor yn darparu rhan fach o ddarpariaeth gofal hir dymor yn y cartref yn Rhondda Cynon Taf, a byddai'r newid dan sylw yma'n golygu trosglwyddo'r 10% sy'n weddill i ddarparwyr allanol. Byddai gwasanaeth 'Cymorth Cartref' y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal ailalluogi a chanolraddol.

"Trwy'r cynlluniau yma byddai'r Cyngor yn sicrhau bod unrhyw wasanaeth wedi'i gomisiynu newydd yn cael ei ddarparu ar sail parthau daearyddol. Byddai hyn yn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth a byddai'n fuddiol i aelodau o staff sy'n gweithredu ar draws parthau daearyddol ehangach sydd ag amser teithio hirach rhwng galwadau.

"Byddai'r cynigion yma'n caniatáu dull wedi'i gydlynu a fyddai'n lleihau amser teithio i staff gan gynyddu'r amser sy'n cael ei dreulio yng nghartrefi defnyddwyr y gwasanaeth, a chael effaith gadarnhaol ar gyfraddau recriwtio a chadw staff."

Yn rhan o'r cynnig, bydd y pecyn gofal yn parhau i bob defnyddiwr gwasanaeth a bydd staff cymwys sy'n cael eu cyflogi gan wasanaeth 'Cymorth Cartref' y Cyngor i ddarparu gofal hir dymor yn y cartref yn cael eu trosglwyddo i'r darparwr newydd. Byddai'r trosglwyddiad yma'n arwain at dderbyn contract newydd yn unol â threfniadau TUPE. Bydd hyn yn sicrhau bod staff yn dal i fod ar gael i gefnogi defnyddwyr y gwasanaeth ac yn rhoi sicrwydd swyddi i weithwyr trwy ddiogelu telerau ac amodau eu contractau presennol. Byddan nhw hefyd yn parhau i fod yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Yng nghyfarfod y Cabinet ar 23 Hydref, bydd modd i aelodau gytuno â'r cynigion a dechrau'r broses aildendro ar gyfer gwasanaeth gofal hir dymor yn y cartref. Bydd hefyd modd i'r Cabinet gytuno i adael i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ddyfarnu'r contract ar ôl cwblhau'r broses.

Os bydd y Cabinet yn cytuno, bydd defnyddwyr y gwasanaeth gofal hir dymor yn y cartref yn cael gwybod am hynny. Mae trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gydag undebau llafur cydnabyddedig ar y mater yma a bydd y trafodaethau yma'n parhau ar ôl y cyfarfod.

Wedi ei bostio ar 12/10/23