Skip to main content

Achlysuron y Nadolig yng nghanol ein trefi

XMas 2022

Bydd Siôn Corn yn dychwelyd i ganol ein trefi eleni a bydd yn dod â mwy o hwyl yr ŵyl! 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnal Achlysuron y Nadolig yng nghanol y trefi canlynol: 

24 Tachwedd

Glynrhedynog

Maes Parcio Stryd y Leimwydden

3pm tan 6.30pm

25 Tachwedd

Porth

Maes Parcio Plaza'r Porth

12pm tan 5pm

1 Rhagfyr

Tonypandy

Maes Parcio Stryd De Winton

3pm tan 6.30pm

2 Rhagfyr

Aberpennar

Maes Parcio Stryd Henry

12pm tan 5pm

Rydyn ni wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr achlysur yma'n fforddiadwy i drigolion Rhondda Cynon Taf a bydd tocynnau ar werth am £1 yr un ar y diwrnod i’w defnyddio ar gyfer pob gweithgaredd. Gall ymwelwyr ddisgwyl llawer o weithgareddau Nadoligaidd, gan gynnwys:

Llawr sglefrio synthetig - bydd esgidiau sglefrio a fframiau sglefrio'n cael eu darparu - 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.

Glôb eira enfawr - camwch i mewn i'n glôb eira enfawr er mwyn tynnu hunlun Nadoligaidd - 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.

Hwyl yr ŵyl - mwynhewch ein reidiau i blant (bydd cyfyngiadau o ran oedran / taldra) 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.

Paentio wynebau - eisiau edrych fel Elsa neu Olaf? Beth am y Grinch? 1 tocyn ar gyfer pob plentyn.

Ogof Siôn Corn – does dim modd dod i achlysur y Nadolig heb ymweld â'r dyn ei hun, dewch i gwrdd â Siôn Corn yn ei ogof! Bydd pob plentyn yn derbyn anrheg sy'n addas ar gyfer eu hoedran. 2 docyn ar gyfer pob plentyn.

Stondinau crefftau - bydd gan rai trefi ffair crefftau’r Nadolig fach yn rhan o hwyl yr ŵyl – dyma gyfle perffaith i brynu anrhegion unigryw!

Mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi cymorth ariannol i nifer o drefi sydd wedi trefnu eu hachlysuron y Nadolig eu hunain, ar y cyd â'u Cynghorau Tref ac Ardaloedd Gwella Busnes.

Bydd modd profi hud y Nadolig yn y lleoliadau canlynol:

24 Tachwedd

Pontypridd

Canol y dref

4pm tan 7pm

30 Tachwedd

Aberdâr

Canol y dref

4pm tan 8pm

2 Rhagfyr

Treorci

Canol y dref

10pm tan 5pm

8 a 10 Rhagfyr

Llantrisant

Hen ganol y dref ac o'i chwmpas

10pm tan 5pm

Nodwch fod modd i'r amseroedd newid. 

Beth am ymuno â hwyl yr ŵyl drwy alw heibio i gynifer o achlysuron y Nadolig yng nghanol trefi ag yr hoffech chi? Cofiwch fod canol ein trefi ni'n llawn bwytai a siopau gwych – manteisiwch arnyn nhw! 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor:
Mae ein hachlysuron y Nadolig yn arbennig bob blwyddyn ac mae canol ein trefi ni'n llawn siopau anrhegion unigryw. Mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar deuluoedd a busnesau yn yr un modd felly hoffwn i annog trigolion ac ymwelwyr i fwynhau a siopa'n lleol yn Rhondda Cynon Taf eleni. 

Am y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf am yr achlysuron yma, dilynwch gyfrif 'Be'sy mlaen' RhCT ar Facebook, Twitter neu Instagram.

Mae'n bleser gyda ni unwaith yn rhagor gyhoeddi mai cwmni Nathaniel Cars sy’n noddi ein hachlysur. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chwmbrân wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 35 mlynedd.

Wedi ei bostio ar 13/10/23