Skip to main content

Cyllid Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) 4 (Gostwng Costau Gwresogi Cartref - HHCRO)

Mae'r Cyngor wedi cael gwybod bod rhai preswylwyr yn derbyn llythyrau marchnata gan gwmnïau sy'n cynnig cyllid ar gyfer mesurau ynni. Mae'n bosibl y bydd y cwmnïau sy’n cysylltu â chi'n ddilys ac ag enw da yn y rhan fwyaf o achosion, ond yn anffodus ar adegau rydyn ni'n cael gwybod am sgamiau a gweithgarwch twyllodrus. Er mwyn i chi allu gwneud dewis gwybodus, dyma ychydig o wybodaeth am y cynllun ynghyd â chyngor i’r rheiny sy’n dymuno cymryd rhan yn y cynllun yma.

Cynllun effeithlonrwydd ynni’r llywodraeth ledled y DU yw ECO 4. Mae wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau allyriadau carbon. Caiff y Cynllun ei ariannu gan Gyflenwyr Ynni o dan rwymedigaeth trwy Osodwyr neu eu Hasiantau, ac mae'r cynllun ar gael ar hyn o bryd tan fis Mawrth 2026.

Energy Company Obligation (ECO) | Ofgem (Saesneg yn unig)

  • Mae amrywiaeth o fesurau ynni ar gael yn rhan o'r cynllun ac maen nhw'n dibynnu ar berfformiad eich cartref o ran ynni a pha fesurau sy'n dechnegol addas. Bydd modd i'r cwmni gosod roi rhagor o wybodaeth i chi am hyn ar ôl i asesiad ynni cartref gael ei gynnal.
  • Mae lefelau cyllid yn amrywio ac mae modd i hyn amrywio o fesurau wedi'u hariannu'n llawn i fesurau wedi'u hariannu'n rhannol sy'n gofyn am gyfraniad gan y cwsmer. Dyma gynghori aelwydydd sydd angen rhoi cyfraniad gan y cwsmer i edrych o gwmpas i ddod o hyd i'r fargen orau ar y pryd.

Cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyn cytuno ar unrhyw waith, cymerwch eich amser a gwnewch eich ymholiadau eich hun. Peidiwch â chael eich rhoi dan bwysau i wneud penderfyniad. Os yw cwmni wedi cysylltu â chi neu os ydych chi'n chwilio am gwmni yn eich ardal, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n gwirio'i statws achredu ar-lein yn gyntaf yma -

Find trusted tradespeople with the only Government Endorsed Quality Scheme • TrustMark (Saesneg yn unig)

Os ydych chi'n penderfynu cymryd rhan yng nghynllun ECO 4 a chael mesurau ynni wedi'u gosod yn eich cartref, sicrhewch fod y cwmni’n rhoi unrhyw warantau neu wybodaeth ôl-ofal i chi ar ôl cwblhau’r gwaith yn ogystal â chadw cofnod o fanylion y cwmni ac unrhyw ddogfennaeth gytundebol. Mae'r dewis o gontractwr yn seiliedig ar eich dewis chi fel cwsmer, felly mae'n bosibl y byddwch chi hefyd am gynnal gwiriadau eraill ar y cwmni, fel y byddech chi'n ei wneud petaech chi'n prynu mathau eraill o welliannau i'r cartref.

Os ydych chi'n teimlo nad yw cwmni'n ddilys, yna rhowch wybod i Wasanaethau Cyngor i Ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth am unrhyw weithgarwch canfasio - ffoniwch 0808 223 1133 neu ewch ar-lein: Cyngor ar Bopeth. Mae modd i'r gwasanaeth yma hefyd roi rhagor o wybodaeth am eich hawliau fel defnyddiwr.

Mae Cynllun NYTH Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig ystod o gymorth diduedd am ddim, ac os ydych chi'n gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartrefi am ddim, e.e. boeler newydd, gwres canolog neu ddefnydd inswleiddio. Mae modd ffonio NYTH ar 0808 808 2244 (Llun-Gwener, 9am-6pm) neu mae modd gofyn am alwad yn ôl trwy'r wefan https://nyth.llyw.cymru

Mae’n bosibl y bydd rhai preswylwyr yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun ynni (fel Nyth ac ECO 4). Dyma gynghori perchnogion tai i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael iddyn nhw cyn cytuno i fwrw ymlaen, gan gofio unwaith y byddwch chi'n cael cymorth gan un cynllun, efallai na fyddwch chi'n gymwys mwyach ar gyfer mesurau gan gynllun gwahanol. Mae mesurau ynni a lefelau cyllid yn amrywio rhwng gwahanol gynlluniau.

Mae modd i garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor eich cynorthwyo a rhoi gwybodaeth i chi ar yr amrywiaeth o gymorth a grantiau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 281136 neu e-bostio GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 12/10/23