Skip to main content

Gwaith Gwrthsefyll Llifogydd yn ardal Ynys-boeth gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru

Nant y Fedw grid - Copy

Bydd y Cyngor yn dechrau dau gynllun lleol yn #Ynysboeth cyn hir i wella gallu'r ardal i wrthsefyll llifogydd - gan gyflawni'r ddau gynllun gyda'i gilydd dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Nant y Fedw a'r rhan gyfagos o'r B4275 Heol Abercynon (ger y safle bysiau ar yr heol fawr).

Bydd y cynllun yn cychwyn o ddydd Llun, 23 Hydref, gan ddefnyddio cyllid sydd wedi'i sicrhau o ddwy raglen wahanol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd gwaith gwella i'r cwlfert yn Nant y Fedw yn uwchraddio strwythur y gilfach bresennol ac yn gosod basn malurion i leihau'r tebygolrwydd o rwystrau yn ystod glaw trwm. Mae'r elfen yma o'r gwaith wedi sicrhau cyllid o'r rhaglen Grant Ffyrdd Cydnerth.

Bydd gwaith hefyd yn cael ei gynnal i osod llwyfan ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Bydd yn helpu i gael mynediad at sianel y cwrs dŵr a’r gril er mwyn eu cynnal a’u trwsio yn y dyfodol. Bydd yr elfen yma o'r gwaith yn cael ei chyflawni drwy'r rhaglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach.

Bydd y ddau gynllun yn cael eu cynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT a'i is-gontractwr Hammonds Ltd dros y naw wythnos nesaf.

Bydd goleuadau traffig symudol yn cael eu defnyddio yn Heol Abercynon, gan leihau llif y traffig i un lôn dros gyfnod y cynllun.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 13/10/23