Skip to main content

Swyddog Graddedig Katie Trembath yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024

Katie Trembath Apprentice PR

Mae Katie Trembath, Swyddog Lleihau Carbon, wedi cyrraedd rhestr fer y categori 'Doniau Yfory' yn rhan o Wobrau Prentisiaethau Cymru mawreddog 2024. Mae'r enwebiad yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad Katie fel y Swyddog Graddedig – Ynni a Lleihau Carbon. Yn rhan o'i gwaith, mae hi wedi datblygu nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sydd wedi bod yn rhan o Gynllun Rheoli Carbon y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Ers ymuno â'r Cyngor yn 2022, mae Katie wedi chwarae rhan allweddol wrth reoli prosiectau ynni adnewyddadwy er mwyn cefnogi'r Cyngor i ddod yn Sefydliad Carbon Niwtral.

"Mae’r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ar bawb ac mae'n bwysig ein bod ni, fel sefydliad, yn pennu addewidion i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030. Mae'r gwaith sy'n cael ei gwblhau gan Katie a'r garfan ehangach yn allweddol i ni gyflawni’r amcanion amgylcheddol yma.

"Rydw i'n dymuno pob lwc i Katie yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru ym mis Mawrth 2024. Mae ymroddiad a gwaith caled Katie yn adlewyrchu'n union yr hyn mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn chwilio amdano yn ei weithwyr. Mae hi'n ysbrydoliaeth i brentisiaid a swyddogion graddedig y dyfodol. Does dim amheuaeth bod gan Katie ddyfodol disglair o'i blaen."

Y tro cyntaf i Katie gael blas ar weithio’n rhan o'r Garfan Ynni oedd 2013. Daeth hi ar brofiad gwaith yn rhan o'i haddysg yn yr ysgol uwchradd. Roedd hi'n amlwg bod gan Katie ddiddordeb yn y rhaglen arbed ynni, a datblygodd hi ei gwybodaeth wrth astudio am radd mewn Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd yn rhan amser yn y Brifysgol Agored. Yn rhan o'i hastudiaethau, astudiodd hi effeithiau’r newid yn yr hinsawdd gan ganolbwyntio ar leihau carbon a defnyddio ynni adnewyddadwy. Graddiodd hi yn 2022.

Ym mis Mehefin 2022, ymunodd Katie â'r garfan fel Swyddog Graddedig lle cafodd hi'r cyfle i astudio cymhwyster Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau. Yn ogystal â hynny, enillodd hi gymwysterau ychwanegol sef 'NEC4 Contracts' a  'Prince 2 Foundation Practitioner'. Mae Katie hyd yn oed wedi cefnogi gwaith recriwtio prentisiaid a graddedigion trwy roi o'i hamser a rhannu ei phrofiadau'n ystod diwrnodau agored.

Mae Katie wedi bod yn rhan o nifer o fentrau allweddol sy'n cefnogi amcan y Cyngor i ddod yn sefydliad Carbon Niwtral. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cefnogi'r gwaith o gynnal prosiect i osod fferm solar 6-megawat i greu ynni adnewyddadwy, gyda rhan o'r ynni'n cael ei ddefnyddio i bweru cyfleuster iechyd lleol.
  • Cynnal asesiadau manwl o ran pa mor ymarferol ydy cynlluniau trydan dŵr Rhondda Cynon Taf , gan roi ystyriaeth i gysylltiadau ag adeiladau'r Cyngor er mwyn datgarboneiddio yn unol â Strategaeth Datgarboneiddio y Cyngor.
  • Cynnal achlysuron 'Sero Net' i godi ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd, a rhoi gwybod i staff sut mae modd iddyn nhw gefnogi'r Cyngor i gyrraedd ei dargedau lleihau carbon.

Yn ychwanegol at hyn, mae Katie wedi ysgwyddo rôl newydd, sef Swyddog Cymorth i’r Gweithgor Newid yn yr Hinsawdd. Hi sy'n gyfrifol am gydlynu gweithgareddau sy'n ymateb i’r Newid yn yr Hinsawdd, gan gynnwys:

  • Cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan
  • Adrodd ar ôl troed carbon y Cyngor
  • Gweithgareddau natur (e.e. plannu coed ac adfer mawndiroedd)
  • Datblygu Cynllun Ynni Ardal Leol y Cyngor
  • Gwella effeithlonrwydd ynni ledled adeiladau’r Cyngor

Meddai Katie, Swyddog Lleihau Ynni: "Rydw i wir wedi mwynhau fy amser fel Swyddog Graddedig – Ynni a Lleihau Carbon. Ers dechrau'r rhaglen, rydw i wedi derbyn cefnogaeth ac arweiniad gan fy rheolwr a'r garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant, sy'n cynnal y cynllun prentisiaethau a'r rhaglen i raddedigion.

"Ers dechrau gweithio i'r Cyngor, mae fy natblygiad proffesiynol wedi gwella'n sylweddol ac rydw i wedi datblygu fel unigolyn. Rydw i wedi bod yn ffodus i dderbyn nifer o gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau ac ennill cymwysterau yn rhan o'r rhaglen i raddedigion. Rydw i'n edrych ymlaen at yr heriau newydd fydd yn codi yn rhan o fy rôl newydd wrth i'r Cyngor wneud pob ymdrech i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

"Braint ydy derbyn enwebiad gan fy rheolwr ar gyfer gwobr 'Doniau Yfory', ac rydw i'n hynod o falch o ddweud fy mod i wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau 2024."

Mae'r prosiectau yma'n hanfodol er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau carbon y Cyngor. Mae'r llwyddiannau yma wedi arwain at gynnydd tuag at gyrraedd y targedau heriol sy'n cael eu hamlinellu yn y Strategaethau Datgarboneiddio a Mynd i’r Afael â’r Newid yn yr Hinsawdd, gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gael Sector Cyhoeddus Carbon Sero Net erbyn 2030 a'r agenda Newid yn yr Hinsawdd ehangach. O ganlyniad i'w gwaith caled, mae Katie wedi sicrhau swydd barhaol yn ddiweddar fel Swyddog Lleihau Carbon lle bydd hi'n parhau i ddarparu mentrau i helpu'r Cyngor i gyflawni statws Carbon Niwtral.

Meddai rheolwr llinell Katie, Jon Arroyo ‒ Rheolwr Ynni a Lleihau Carbon: "Rydyn ni'n ffodus bod Katie yn gweithio fel rhan o'n carfan; yn ei rôl newydd bydd gofyn iddi weithio gyda thechnoleg newydd ac arloesol er mwyn bodloni her Sero Net, a chyfrannu at amcan Llywodraeth Cymru i ddod yn 'Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang'.

"Ers i Katie ddechrau, mae hi wedi parhau i wneud yn well na'r disgwyliadau trwy sicrhau ei bod hi'n cwblhau ei gwaith cwrs Rheoli Prosiectau, gan hefyd ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol er mwyn sicrhau bod prosiectau ynni adnewyddadwy yn llwyddo. Mae Katie wedi dangos ymagwedd broffesiynol, hyderus a rhesymegol tuag at oresgyn heriau.

"Mae ymrwymiad Katie i'w swydd yn rhagorol ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â her Newid yn yr Hinsawdd fwyaf y byd. Mae hi'n haeddu cydnabyddiaeth am ei holl waith caled a'i hymroddiad ac rydw i'n dymuno'r gorau iddi ar gyfer y gwobrau ym mis Mawrth 2024. Rydw i'n edrych ymlaen at ei gweld hi'n datblygu yn y dyfodol."

Mae Katie'n un o gannoedd o brentisiaid a swyddogion graddedig sy'n parhau i ddod â syniadau newydd a gwerthfawr i'r Cyngor drwy swyddi o ansawdd sy'n talu'n dda. Maen nhw'n derbyn cefnogaeth gan y garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant, sydd wedi bod yn cynnal y rhaglenni ers 2012. Hyd heddiw, mae'r garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant wedi rhagori ar ei hymrwymiad cychwynnol trwy gyflogi dros 500 o brentisiaid a graddedigion. Yn 2022 roedd y Cyngor wedi addo i gyflogi 150 o brentisiaid a graddedigion ychwanegol dros y 5 mlynedd nesaf. Ers y datganiad, mae'r Cyngor wedi cyflogi 91 prentis newydd a 30 o raddedigion.

Mae'r cynllun yn llwyddiannus iawn, mae 78% o brentisiaid a 70% o raddedigion yn parhau i weithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ôl iddyn nhw gwblhau'r rhaglen ddwy flynedd. Ar hyn o bryd mae dau gyn-swyddog graddedig bellach mewn rolau Pennaeth Gwasanaeth, sy'n dangos canlyniadau clir a chadarnhaol y rhaglen. Mae'r cynllun yn denu ac yn cadw talent leol, ac fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, mae'r Cyngor yn allweddol i'r economi leol ac economi Cymru.

Yn 2018 a 2021 enillodd Cyngor Rhondda Cynon Taf wobr Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru am ei raglen brentisiaethau ragorol.

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn hysbysebu'i brentisiaethau a chyfleoedd i raddedigion, ac yn 2023 daeth dros 800 cais i law am 50 swydd, sy'n dangos yn glir pa mor boblogaidd ydy'r cynllun. Am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni i brentisiaid a graddedigion, gan gynnwys manylion am sut a phryd i wneud cais, ewch i'n wefan: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/JobsandTraining/Jobs/ApprenticeshipsGraduateSchemes/ApprenticeshipSchemeGraduateProgramme.aspx

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau unigolion sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad 'Rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau'. Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chronfa Gymdeithasol Ewrop, sy'n trefnu ac yn ariannu'r rhaglenni yma. Cafodd y gwobrau eu sefydlu yn 2017 ac mae categorïau ar gyfer prentisiaid, darparwyr addysg, a chyflogwyr sydd wedi dangos menter, arloesedd a chreadigrwydd.

Mae categorïau gwobrau dysgwyr yn cynnwys Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Prentis y Flwyddyn, Prentis Uwch y Flwyddyn a Doniau Yfory. Rhaid i gyflogwyr enwebu prentis ar gyfer gwobr Doniau Yfory.

Am ragor o wybodaeth am y gwobrau a manylion am sut i wneud cais, ewch i: https://www.llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru

Wedi ei bostio ar 26/10/23