Skip to main content

Adroddiad cynnydd yn ystod camau cynnar cynllun ailddatblygu Canolfan Gelf y Miwni

Muni grid - Copy

Mae’r lluniau yma'n dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud yng nghamau cynnar prosiect Canolfan Gelf y Miwni yn Pontypridd.

Dechreuodd y gwaith ailddatblygu cyffrous mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ym mis Medi – er mwyn ailagor y Miwni y flwyddyn nesaf fel lleoliad achlysuron amlbwrpas a chwbl hygyrch.

Yn rhan o'r gweithgarwch cynnar, mae'r contractwr, Knox & Wells, wedi bod yn paratoi'r safle gwaith tra bod sgaffaldiau wedi’u gosod ar du allan yr adeilad a gwaith tynnu gosodiadau/dymchwel wedi dechrau y tu mewn.

Cliciwch yma i weld fersiwn fawr o'r llun uchod

Mae'r llun uchaf ar y dde yn edrych tuag at ardal yr hen lwyfan, ac yn dangos sut mae leininau'r awditoriwm wedi'u tynnu.

Mae'r llun gwaelod ar y chwith yn dangos y gwaith stripio i’r awditoriwm sy'n mynd rhagddo yng nghefn yr ystafell, gan edrych i gyfeiriad y bar newydd a'r seddi mae modd eu tynnu'n ôl.

Mae leininau'r waliau ar gyfer y mesanîn hefyd wedi'u tynnu, gan ddatgelu ffenestri presennol yr adeilad - i'w gweld yn y llun gwaelod ar y dde.

Mae'r gwaith stripio/dymchwel yn parhau. Yn ddiweddarach y mis yma, bydd trigolion yn sylwi ar hysbysfyrddau'r safle a fydd yn cael eu gosod y tu allan, a'r prif waith to a fydd yn mynd rhagddo.

Mae’r prosiect yma'n cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ar ôl i £5.3miliwn gael ei sicrhau gan y Cyngor ar ddiwedd 2021.

Byddwn ni'n parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect wrth i'r cynllun yma fynd rhagddo yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Wedi ei bostio ar 12/10/23