Skip to main content

Newidiadau arfaethedig i drefniadau comisiynu Gwasanaethau Byw â Chymorth

Bydd newidiadau i drefniadau comisiynu Gwasanaethau Byw â Chymorth i oedolion sydd ag anableddau dysgu yn cael eu trafod gan y Cabinet yn fuan. Pe byddai'r cynigion yn cael eu cymeradwyo, byddai'r ganran fach o wasanaethau'r Cyngor yn cael eu trosglwyddo i ddarparwyr allanol, gan sicrhau bod gofal yn parhau a bod swyddi staff yn cael eu cadw. 

Mae Gwasanaethau Byw â Chymorth yn darparu llety â chymorth 24/7 i oedolion sydd ag anableddau dysgu, ac yn rhoi cymorth i nifer fach o bobl sy'n byw mewn tai a rennir ledled Rhondda Cynon Taf. Mae gan ddefnyddwyr y gwasanaeth eu tenantiaeth eu hunain, gan eu galluogi nhw i barhau i fyw yn eu cymunedau lleol.

Mae gan y Cyngor wasanaeth mewnol bach sy'n darparu gofal i oddeutu 10% o gyfanswm y bobl sy'n derbyn gwasanaeth Byw â Chymorth yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys 27 o bobl sy'n cael cymorth 54 aelod o staff mewn naw tŷ.

Mae'r farchnad allanol sy'n fwy o lawer yn darparu'r rhan fwyaf o'r ddarpariaeth gyffredinol – oddeutu 90% o'r ddarpariaeth Byw â Chymorth bresennol yn y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn cynnwys 245 o bobl sy'n cael cymorth mewn 78 o dai.

Yn y cyfarfod sy'n cael ei gynnal ddydd Llun 23 Hydref, bydd Aelodau'r Cabinet yn trafod adroddiad swyddog sy'n argymell trosglwyddo naw gwasanaeth Byw â Chymorth y Cyngor i ddarparwyr allanol newydd, a hynny trwy aildendro contract presennol y Cyngor. Pe byddai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo, byddai hyn yn dechrau o fis Ebrill 2024.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan y Cyngor brofiad sylweddol a hanes da o gomisiynu gwasanaethau Byw â Chymorth gan ddarparwyr allanol. Mae'r contract 10 mlynedd presennol yn dod i ben eleni felly mae'r broses aildendro eisoes wedi dechrau, a bydd y contract newydd yn dechrau o fis Ebrill 2024.

“Byddai'r newidiadau sy'n cael eu trafod gan y Cabinet, pe bydden nhw'n cael eu cymeradwyo, yn trosglwyddo'r ganran fach o wasanaethau Byw â Chymorth, sy'n cael eu darparu'n fewnol ar hyn o bryd, i'r farchnad allanol. Mae'r farchnad allanol eisoes yn darparu oddeutu 90% o'r gwasanaeth. Mae swyddogion yn dweud y byddai'r newidiadau'n sicrhau gwerth gorau a chynaliadwyedd y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, a hynny heb leihau'r gwasanaeth i helpu pobl sy'n dibynnu arno.

“Pe byddai'r newidiadau'n cael eu cymeradwyo ym mis Hydref 2023, bydden ni'n ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth, eu teuluoedd ac aelodau o staff. Bydden nhw'n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf o ran beth y byddai'r newidiadau'n ei olygu iddyn nhw a manylion am y broses drosglwyddo.”

Byddai'r newidiadau'n sicrhau y byddai pob aelod o staff cymwys sy'n darparu'r gwasanaethau Byw â Chymorth mewnol ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i'r darparwr arbenigol newydd, a hynny o dan drefniadau TUPE. Bydd hyn yn sicrhau bod telerau ac amodau contract cyflogaeth yn cael eu diogelu yn y dyfodol – yn ogystal ag aelodaeth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Wedi ei bostio ar 13/10/2023