Skip to main content

Datganiad y Cyngor ar ymchwiliadau o ran concrit RAAC

Mae'r wasg wedi rhoi cryn dipyn o sylw i faterion sy'n ymwneud â Choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) mewn adeiladau dros yr wythnosau diwethaf. 

Ar 4 Medi, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg ddatganiad ysgrifenedig ar y mater yma.

Dyma gadarnhau nad ydy Rhondda Cynon Taf yn effro i unrhyw achosion o ddefnyddio RAAC yn ein hysgolion. 

Mae swyddogion bellach yn cynnal rhagor o astudiaethau yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru ar y mater yma.

Byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal diwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau bod ein hadeiladau ysgol yn ddiogel ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda.

I raddau helaeth, mae Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd wahanol i Loegr mewn perthynas â chynnal a chadw adeiladau ysgolion a buddsoddi. Er bod rhaglenni adeiladu ysgolion yn Lloegr wedi'u cwtogi'n sylweddol, mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu yng Nghymru wedi arwain at gyllid cyfalaf sylweddol ar gyfer ysgolion, gyda Chyngor RhCT yn elwa ar gannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiadau mewn adeiladau ysgol newydd a gwell.

Yn seiliedig ar arolygon blaenorol, mae ysgolion yn RhCT i raddau helaeth yn perthyn i dri chategori gwahanol nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer adeiladau sydd fel arfer yn cynnwys RAAC, sef:

  • Adeiladau ysgol hŷn (oddetu Oes Fictoria);
  • Adeiladau arddull CLASP (Rhaglen Arbennig y Consortiwm Awdurdodau Lleol) sy'n cynnwys golau, fframiau dur parod a thoeau pren;
  • Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy'n newydd sbon neu wedi'u moderneiddio

Bydd y Cyngor yn parhau i flaenoriaethu diogelwch disgyblion a staff wrth gynnal arolygon pellach, a hynny ar fyrder.

Wedi ei bostio ar 08/09/2023