Skip to main content

Bws Gwennol am ddim yn ystod cyfnodau cau ffordd yn Ffynnon Taf

temporary-bus-arrangements_WELSH

WEDI’I DDIWEDDARU AR: 20/09/23 - nodwch, cafodd y gwaith sydd wedi'i amlinellu yn yr eitem newyddion yma ei gwblhau yn gynt na'r disgwyl, a fydd dim angen cau’r ffordd rhwng 22 a 25 Medi mwyach. Bydd bysiau yn dilyn y drefn arferol.

 

Nodwch, bydd trefniadau bws dros dro ar waith oherwydd bod angen cau Heol Caerdydd yn Ffynnon Taf er mwyn hwyluso gwaith sy'n gysylltiedig â Metro De Cymru.

Bydd Amberon Ltd yn palu tyllau arbrofol gerllaw gan olygu fod rhaid cau Heol Caerdydd am bellter o 140 metr – o Ffordd y Fynwent hyd at bwynt i gyfeiriad y gogledd-orllewin o Ffordd Bleddyn.

Mae map o ardal y ffordd a fydd yn cau wedi'i gynnwys ar wefan y Cyngor.

Bydd y ffordd ar gau rhwng 8pm, dydd Gwener 8 Medi a 5am, dydd Llun 11 Medi. Bydd hyn yn cael ei ailadrodd y ddau benwythnos canlynol (Medi 15–18 a Medi 22–25).

Bydd llwybr amgen ar gael i ddefnyddwyr y ffordd ar hyd yr A4054, Heol Caerdydd, Cylchfan Stryd Rhydychen, Cylchfan Nantgarw, yr A470, Cylchfan Ffynnon Taf a Heol Caerdydd – neu'r llwybr yma yn yr un drefn ond i'r cyfeiriad arall.

Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad i gerddwyr ac i eiddo. Fydd dim mynediad ar gael i feicwyr. Y llwybr amgen i feicwyr fydd Llwybr Taith Taf.

Fydd dim modd i wasanaethau bws lleol wasanaethu Ffynnon Taf yn ystod y cyfnodau cau.

Bydd Gwasanaeth 132 (Caerdydd – Maerdy) a Gwasanaeth 26 (Caerdydd – Y Coed Duon) yn dargyfeirio ar hyd yr A470 i'r ddau gyfeiriad.

Bydd bws gwennol AM DDIM yn cael ei gynnal ar ôl 8pm bob dydd Gwener a drwy'r dydd bob dydd Sadwrn a dydd Sul, rhwng safle bws Tafarn y Cross Keys, Heol Caerffili a Gorsaf Drenau Ffynnon Taf.

Bydd hyn yn caniatáu i deithwyr gysylltu â Gwasanaeth 132 i'r ddau gyfeiriad er mwyn teithio ymlaen i Gaerdydd, Pontypridd a Maerdy.

Bydd y bws gwennol yn cael ei gynnal gan Bella Road Services (01443 226992) i'r ddau gyfeiriad, gan ddilyn yr amserlen ganlynol.

Wedi ei bostio ar 07/09/23