Skip to main content

Y Newyddion Diweddaraf am Bont Heol y Maendy

Mae cynnydd da wedi'i wneud ar waith Pont Heol y Maendy, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau 7-10 diwrnod yn gynt na'r disgwyl.

Mae disgwyl i slabiau concrit gyrraedd y safle yn ystod yr wythnos nesaf, a chyhyd â bod y rhain yn cyrraedd ac yn cael eu gosod ar amser, bydd modd i garfanau Wales and West Utilities gynnal gwaith dargyfeirio cyfleustodau pellach ar ben y slabiau newydd.

Unwaith y bydd y cam yma wedi'i gwblhau, bydd modd i'r Cyngor rannu diweddariad pellach er mwyn amlinellu sut y bydd modd bwrw ymlaen â'r rhaglen waith.  

Mae'r Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r contractwyr er mwyn adeiladu'r bont cyn gynted ag y bo modd.  Fodd bynnag, does dim modd bwrw ymlaen â'r rhaglen waith hyd nes y bydd y slabiau concrit wedi'u gosod a'r gwaith dargyfeirio cyfleustodau wedi'i gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf, a hynny o ganlyniad i'r dull fesul cam y mae angen ei fabwysiadu.

Mae'r Cyngor yn effro iawn i'r effaith y mae'r gwaith yn ei chael ar draffig yn yr ardal leol, felly mae'r Cyngor, ar y cyd â'r peirianwyr, wedi gweithredu newidiadau pellach i'r goleuadau traffig ar Stag Square, lle mae traffig i gyfeiriad y gogledd yn brysur yn ystod canol y prynhawn.
Wedi ei bostio ar 08/09/23