Skip to main content

Cynllun gwaith i leihau perygl llifogydd yn ardal Tylorstown

Park Street, Tylorstown

Bydd gwaith lliniaru llifogydd pwysig yn dechrau ar hyd Stryd y Parc yn ardal Tylorstown yr wythnos nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd angen cau ffordd leol. Dyma'r cyntaf o ddau gynllun lliniaru llifogydd sylweddol sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn y gymuned.

Bydd y cynllun cyntaf yn dechrau o ddydd Llun 25 Medi, a bydd yn cynnwys uwchraddio'r seilwaith ar hyd Stryd y Parc a gwella capasiti'r rhwydwaith i ymdopi â glaw trwm. Y bwriad yw lleihau llifogydd dŵr wyneb ar Stryd y Parc a fydd, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar strydoedd cyfagos megis Teras Arfryn a Theras Brynheulog sydd ag eiddo preswyl.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Contractors i gynnal y gwaith dros yr wyth wythnos nesaf. Mae'r cynllun wedi elwa ar gyfraniad cyllid 85% gan Raglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru.

Bydd gwaith ar y safle'n cynnwys gwella'r cwlfer a rhwydwaith draenio pantiau presennol. Bydd yn gosod sawl siambr, cored a phwll dal, gyda'r bwriad o arafu llif y dŵr sy'n mynd i mewn i'r cwlfer presennol. Bydd pibell newydd oddeutu 180 metr o hyd yn cael ei gosod yn lle'r hen bibell ym mhen deheuol Stryd y Parc. Bydd gwaith unioni yn cael ei gynnal ar ardal fach o dirlithriad lleol ger y system ddraenio.

Bydd angen cau Stryd y Parc er mwyn cynnal y gwaith yn ddiogel (o Heol Cynllwyndu tua chyfeiriad y gogledd-orllewin am bellter o 800 metr). Bydd rhan fer o Heol Cynllwyndu hefyd ar gau, rhwng Stryd y Parc a Heol Caradog.

Bydd llwybr amgen i fodurwyr ar gael ar hyd Stryd y Brenin, Teras Graig, Teras Maes-y-deri, Teras Brynheulog, Stryd Hendrefadog, Heol Brynbedw a Heol Cynllwyndu. Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys nac i gerddwyr. Mae hysbysiadau safle wedi cael eu gosod, er mwyn rhoi gwybod i drigolion am y trefniadau cau.

Bydd cynllun pellach i'r gymuned, sydd wrthi'n cael ei baratoi, yn dilyn y gwaith yma. Bydd yn gynllun lliniaru llifogydd fydd yn cynnwys yr ardal ehangach y tu hwnt i Stryd y Parc. Mae ymgynghorwyr yn cynnal achos busnes ar gyfer y cynllun ychwanegol yma ar hyn o bryd ar ran y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae buddsoddi mewn mesurau lliniaru llifogydd a thargedu cymunedau sydd wedi wynebu llifogydd yn y gorffennol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor - ac rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal y gwaith yma. Mae cyfanswm o £4.8 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd drwy'r rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach eleni (2023/24).

"Bwriad y cynllun ar Stryd y Parc yn ardal Tylorstown yw mynd i'r afael â phroblem hysbys gyda dŵr wyneb yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae hyn wedyn yn cael effaith bellach drwy gyfrannu at berygl llifogydd mewn strydoedd preswyl yn is i lawr yr afon. Bydd y gwaith yn uwchraddio pibellau'r cwlfer presennol wrth arafu llif y dŵr sy'n ei gyrraedd - drwy osod seilwaith megis coredau a phyllau dal.

"Ers Storm Dennis, mae buddsoddiad sylweddol wedi bod mewn cynlluniau lliniaru llifogydd ledled y Fwrdeistref Sirol - gyda'n rhaglen o dros 100 o gynlluniau'n parhau i fynd rhagddi. Rydyn ni hefyd wedi cwblhau pob adroddiad Adran 19 ar gyfer 19 cymuned, a hynny er mwyn deall yn well beth ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis a dadansoddi sut mae modd lliniaru llifogydd pan fydd glaw trwm yn y dyfodol.

"Ochr yn ochr â'r gwaith ar Stryd y Parc yn ardal Tylorstown ym mis Medi eleni, bydd y Cyngor yn dechrau gwaith adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman ac yn dechrau ymgynghoriad cynhwysfawr ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Treorci yn y dyfodol, gan ddilyn proses debyg i'r un gafodd ei rhoi ar waith ar gyfer Pentre ym mis Mehefin a Gorffennaf.

"Bydd y gwaith ar Stryd y Parc yn dechrau ddydd Llun sy'n golygu y bydd raid cau ffordd - diolch i'r gymuned ehangach am eich amynedd a'ch cydweithrediad dros yr wythnosau nesaf. Bydd y Cyngor hefyd yn cyflawni cynllun lliniaru llifogydd ehangach ar gyfer yr ardal leol yn y dyfodol. Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei rannu gyda thrigolion lleol ar ôl iddo gael ei lunio.”

Wedi ei bostio ar 22/09/2023