Skip to main content

Coleg y Cymoedd: Ailddechrau Lleoliadau i Fyfyrwyr yn Gwasanaethau i Oedolion

2

Ar 8 Ebrill, 2024, mae adran Gwasanaethau i Oedolion Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ailddechrau ei leoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 gyda Choleg y Cymoedd.

Mae'r Cyngor yn croesawu pedwar myfyriwr i leoliadau a fydd yn para tair wythnos ac yn cwmpasu ystod o wahanol safleoedd, gan gynnwys gofal preswyl a gwasanaethau oriau dydd i bobl ag anableddau dysgu.

Meddai Neil Elliott, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol “Rydw i’n falch iawn o ddweud bod yr adran Gwasanaethau i Oedolion yn ailddechrau ei rhaglen lleoliadau i fyfyrwyr mewn cydweithrediad â chydweithwyr o’r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd.

“Bob blwyddyn, mae’r adran wedi cyflogi nifer o fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r coleg i gyflawni lleoliadau gwaith ar amrywiaeth o wahanol safleoedd, a dyma fydd y flwyddyn gyntaf i ni dderbyn myfyrwyr ers y pandemig.

“Mae’r fenter ragorol yma'n rhoi’r cyfle i bobl ifainc gael profiad gwaith ystyrlon, datblygu sgiliau trosglwyddadwy, a chael blas ar weithio yn y sector gofal cymdeithasol.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’r bobl ifainc yma'n datblygu yn ystod eu lleoliadau ac yn dymuno pob lwc iddyn nhw gyda’u hastudiaethau.”

Mae'r myfyrwyr wedi ennill sgiliau hanfodol trwy ysgrifennu ceisiadau ffurfiol a chymryd rhan mewn cyfweliadau ar gyfer eu lleoliadau. Byddan nhw hefyd yn mynychu sesiynau ymsefydlu gofal cymdeithasol ffurfiol y Cyngor, yn union fel pob aelod newydd o staff. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw ennill gwybodaeth ymarferol am eu maes a bydd eu tiwtoriaid hefyd yn bresennol yn yr hyfforddiant ymsefydlu. Bydd hyn yn cyfrannu at eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac yn meithrin amgylchedd hyfforddi cydweithredol.

Mae'r rhaglen lleoliadau i fyfyrwyr yn fuddiol am sawl rheswm. Mae'n rhoi profiad gwaith ystyrlon ym maes gofal cymdeithasol i bobl ifainc lleol ac yn helpu'r Cyngor i hyrwyddo'r sector a'r cyfleoedd y mae modd i ni eu darparu.

Nod ein lleoliadau i fyfyrwyr yw rhoi profiad i’r unigolion ifainc yma gyda’r gobaith bod modd i ni eu hannog i ddod yn ôl i weithio i'r Cyngor yn weithwyr llawn amser ar ôl iddyn nhw ennill eu cymwysterau.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’n wych gweld bod Gwasanaethau i Oedolion unwaith eto yn cynnig lleoliadau gwaith i’r bobl ifainc yn ein cymuned er mwyn iddyn nhw allu datblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.

“Mae’r lleoliadau yma'n chwarae rhan bwysig wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, drwy roi profiad ymarferol iddyn nhw i ategu’r hyn maen nhw eisoes wedi’i ddysgu.

“Rydw i’n annog y myfyrwyr i achub ar y cyfle yma ac yn gobeithio y byddan nhw'n mwynhau eu hamser yn gweithio gyda ni.”

Yn ystod eu lleoliadau tair wythnos, penodir uwch fentor i bob myfyriwr, rheolwr llinell sy'n eu harwain trwy'r cyfnod sefydlu, a chydlynydd sy'n gweithio gyda'r lleoliad a'r coleg i sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo’n ddidrafferth.

Mae’r lleoliad yn rhoi’r profiad angenrheidiol i’r myfyrwyr i ategu’r theori y maen nhw'n ei ddysgu yn ystod eu cymhwyster lefel 2, ac i’w paratoi ar gyfer symud ymlaen i’w cymhwyster lefel 3. 

Mae Gofalwn Cymru yn sefydliad sydd â'r nod o wella proffil y sector gofal cymdeithasol. Er bod gweithio gydag oedolion mewn gofal cymdeithasol yn gallu bod yn heriol, mae’r garfan yn awyddus i bwysleisio ei fod wirioneddol yn brofiad gwerth chweil i’r bobl gywir.

Mae'r mathau o rolau ym maes gofal cymdeithasol i oedolion yn amrywio'n fawr, ac  mae'n debygol y bydd rhywbeth ar eich cyfer chi waeth beth fo'ch cefndir neu'ch sgiliau. Mae rhai o’r meysydd yn cynnwys:

  • Y Gwasanaeth Gofal yn y Cartref
  • Cartrefi Gofal
  • Y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaeth Gofal Shared Lives
  • Anableddau Dysgu

Am ragor o wybodaeth am weithio yn y sector gofal cymdeithasol, ewch i wefan Gofalwn Cymru: https://gofalwn.cymru/

Am ragor o wybodaeth am Goleg y Cymoedd, ac i weld pa gyrsiau sydd ar gael, ewch i'r wefan: https://www.cymoedd.ac.uk/?lang=cy

Wedi ei bostio ar 02/04/24