Skip to main content

Gwaith ymchwilio ar gyfer cynllun gwella draeniau yn y Porth

Tuberville Road, Porth

Bydd system rheoli traffig ar waith ar dair stryd yn Porth er mwyn paratoi i gynnal gwaith uwchraddio system ddraenio sydd ar ddod.

Mae cynllun i wella system ddraenio Heol Tuberville yn cael ei lunio ar hyn o bryd, a bydd gwaith archwilio'r tir yn dechrau ddydd Llun, 8 Ebrill.

Bydd y gwaith yn cynnwys tyllau prawf a bydd rhaid gosod goleuadau traffig dros dro ar Heol Tuberville a Heol Aber-rhondda am bythefnos.

Bydd Heol Packer (rhwng Heol Gwernllwyn a Heol Aber-rhondda) hefyd ar gau am dri diwrnod rhwng 8 a 10 Ebrill.

Bydd llwybr amgen ar gael i fodurwyr ar hyd Heol Gwernllwyn, Coedlan Gynor, heol ddienw rhwng Maes Gynor a Heol Ynys-hir, Heol Ynys-hir a Heol Aber-rhondda.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, cerddwyr ac i bob eiddo lleol. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.

Mae'r gwaith ymchwilio yma wedi'i ariannu'n llawn gan Grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, a bydd yn cael ei gyflawni gan Garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 04/04/2024