Skip to main content

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio mewn partneriaeth â Hafod a Persimmon i ddarparu tai fforddiadwy.

Llanilid 02

Cafodd y chwe fflat ag un ystafell wely eu trosglwyddo i Hafod, un o'r prif ddarparwyr tai fforddiadwy yng Nghymru, ddydd Mawrth 23 Ionawr.  

Mae'r fflatiau'n rhan o gyn safle glo brig, Parc Llanilid, datblygiad sylweddol sydd â'r nod o ddiwallu’r galw mawr am dai yn yr ardal. 

Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd dros 1000 o gartrefi wedi'u creu ar safle Persimmon yn Llanilid, yn ogystal ag ysgol gynradd newydd a chanolfan yn y pentref, gan gynnwys cyfleusterau hamdden, manwerthu a chymunedol.  

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu:

"Rwy'n falch iawn bod ein partneriaeth â Hafod a Persimmon wedi darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn ardal ddeheuol ein Bwrdeistref Sirol.

"Mae'r galw am dai, yn enwedig tai fforddiadwy, yn uchel iawn yn yr ardal leol, ac mae'r cartrefi yma'n rhan o ddatblygiad ehangach sydd â’r gymuned yn rhan ganolog ohono.

"Mae gweithio gyda phartneriaid megis Hafod a Persimmon i ddarparu cartrefi ar gyfer ein trigolion yn un o'r camau gweithredu y mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn eu cymryd i greu cartrefi y mae mawr eu hangen, ochr yn ochr â'n rhaglen hynod lwyddiannus i ailddefnyddio tai gwag a'n cynlluniau Gofal Ychwanegol i ddarparu cyfleoedd byw'n annibynnol i drigolion hŷn. 

"Rwy'n gwybod y bydd y trigolion newydd wrth eu boddau gyda'u cartrefi newydd, ac rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw i gyd."

Meddai Neil Taylor, Pennaeth Datblygu Hafod:  

Trwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid megis Persimmon Homes a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae modd i Hafod ddarparu cartrefi sy'n darparu mwy na brics a morter.

"Bydd y cartrefi newydd yma'n rhan o gymuned fywiog gyda mynediad gwych at amwynderau, gan ddiwallu'r angen am gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel.  

"Rydyn ni'n falch o fod wedi darparu'r fflatiau deniadol yma ac yn falch y bydd ein cwsmeriaid newydd yn galw'r fflatiau yma yn gartref iddyn nhw yn y dyfodol agos."  

Wedi ei bostio ar 05/02/24