Skip to main content

Cynnal gwaith i wella'r system ddraenio ar brif ffordd ger Trealaw o ddydd Llun

A4048 trealaw

Bydd defnyddwyr y ffordd yn sylwi ar waith ar yr A4058 rhwng Trealaw a Dinas o'r wythnos nesaf, yn rhan o gynllun gwella draeniau Ffyrdd Cydnerth.

Bydd y gwaith yn dechrau yn y lleoliad yn y llun (cyferbyn â Pinetree Car Sales) o ddydd Llun 8 Ionawr ac yn para tua 5 wythnos.

Bydd modd i draffig deithio i'r ddau gyfeiriad yn ystod y cynllun, gyda chyfyngiadau cyflymder dros dro ar waith trwy ardal y gwaith i sicrhau diogelwch.

Bydd gwaith y cynllun yn cynnwys adeiladu system ddraenio hidlo newydd ar y glaswellt wrth ochr y ffordd er mwyn lleihau perygl llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.

Mae'r cynllun yn defnyddio cyllid Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru gydag ychydig o arian cyfatebol gan y Cyngor. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor.

Diolch am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 05/01/2024