Skip to main content

Cam cyntaf gwaith gwella lleol i liniaru llifogydd yn Nhylorstown

Tylorstown grid - Copy

Mae'r Cyngor wedi cwblhau cam cyntaf y gwaith lliniaru llifogydd ar hyd Stryd y Parc yn Tylorstown, cyn cynllun lliniaru llifogydd ehangach sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Mae'r gwaith cychwynnol, a ddechreuodd ddiwedd mis Medi, wedi cynyddu capasiti'r rhwydwaith draenio lleol drwy wella'r rhwydwaith cwlferi a phantiau bresennol.

Mae nifer o siambrau, coredau a phyllau dal wedi'u gosod i arafu llif y dŵr sy'n mynd i mewn i'r cwlfert, tra bod tua 180-metr o'r cwlfert wedi'i ailosod ym mhen deheuol Stryd y Parc.

Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i liniaru perygl llifogydd i strydoedd preswyl cyfagos, gan gynnwys Teras Arfryn a Theras Brynheulog.

Cafodd y gorchmynion cau ffyrdd lleol yn Stryd y Parc a Heol Cynllwyndu eu codi ar ôl cwblhau'r gwaith.

Sylwch, mae rhywfaint o waith priddo a hadu angen ei wneud o hyd, gan ei fod yn dibynnu ar well amodau tywydd.

Mae'r gwaith yma wedi elwa ar gyfraniad cyllid 85% gan Raglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru a chyllid RhCT.

Yn y cyfamser, mae cynnydd yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni i ddatblygu cynllun lliniaru llifogydd ehangach ar gyfer yr ardal.

Mae ymgynghorydd a benodwyd gan y Cyngor wrthi'n datblygu achos cyfiawnhad busnes ar gyfer cais yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru am gyllid – byddwn ni’n rhannu rhagor o fanylion maes o law.

Diolch i drigolion lleol am eich amynedd a'ch cydweithrediad yn ystod y gwaith cychwynnol diweddar yn Stryd y Parc.

Wedi ei bostio ar 16/01/2024