Skip to main content

Ymestyn yr Ymgynghoriad ar Gludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol

rct logo web

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau bod yr Ymgynghoriad diweddar ar Gludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol yn cael ei ymestyn am dair wythnos. Mae'r Cyngor yn cydnabod arwyddocâd y cynnig i ddisgyblion sy'n defnyddio cludiant o'r cartref i'r ysgol ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r ymgynghoriad estynedig yn rhoi cyfle pellach i'r rhai a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. 

Bydd rhagor o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal lle bydd swyddogion wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ar y cynnig ac annog pobl i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein:

  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Wen, 29 Ionawr 2024, 4pm-7pm
  • Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, 30 Ionawr 2024, 12pm-2pm, 4pm-7pm
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach, Tylorstown, 31 Ionawr 2024, 4pm-7pm

Mae hyn yn ychwanegol i'r cyfnod ymgynghori chwe wythnos o hyd blaenorol a gafodd ei gynnal rhwng 27 Tachwedd 2023 a 8 Ionawr 2024, ac a ddarparodd dri chyfle i fynd i sesiynau wyneb yn wyneb.

Bydd yr ymgynghoriad yn ailagor ddydd Iau, 18 Ionawr, gan ddod i ben ddydd Iau, 8 Chwefror. Os ydych chi wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad eisoes, does dim angen i chi wneud hyn eto. Mae modd i chi rannu eich barn yn yr ymgynghoriad ar-lein yma: Ymgynghoriad ar Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor

Cwestiynau cyffredin

Mae'r cynnig ar gyfer Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol yn cael ei ystyried yn sgil y pwysau ariannol sylweddol y mae'r Cyngor yn ei wynebu, gyda bwlch o £36 miliwn wedi'i gadarnhau yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Wedi ei bostio ar 18/01/24