Skip to main content

Adroddiad cynnydd a chau ffordd ar gyfer cynllun Pont Castle Inn

Castle Inn Bridge - Copy

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith parhaus tuag at ailagor Pont Droed Castle Inn yn Nhrefforest - gan gynnwys manylion dargyfeiriadau gwasanaeth sydd wedi'u cwblhau'n ddiweddar a ffordd i'w chau'r penwythnos hwn.

Cafodd yr hen bont rhwng Stryd yr Afon yn Nhrefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf ei dymchwel yn sgil difrod stormydd difrifol – ac mae strwythur newydd wedi’i osod i adfer y cyswllt dros yr afon. Gyda'r bont wedi'i chodi i'w lle, rhoddodd y Cyngor wybod i drigolion yn flaenorol am y gwaith sy'n weddill sydd angen ei gynnal cyn y bydd modd i'r bont ailagor. Mae hyn yn cynnwys dargyfeirio carthffosydd a chyfleustodau, ac adfer llwybrau troed wrth ddynesu at y bont newydd.

Er gwaethaf ymdrechion gorau, o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl gyda'r gwaith o ddargyfeirio'r carthffosydd a'r tywydd garw hyd yn hyn y gaeaf hwn, mae dyddiad cwblhau'r gwaith wedi'i ymestyn.

Serch hynny, mae’r gwaith o ddargyfeirio'r carthffosydd bellach wedi’i gwblhau, ac fe gwblhaodd Virgin Media a BT y gwaith o drosglwyddo'u seilwaith yr wythnos ddiwethaf (yr wythnos yn dechrau 8 Ionawr) – felly mae’r holl wasanaethau gofynnol bellach wedi’u dargyfeirio i’r bont newydd.

Mae hyn felly'n caniatáu i'r gwaith sydd heb ei gynnal gael ei gwblhau ar ddynesiad Stryd yr Afon i'r bont. Mae'r gwaith yn cynnwys gosod grisiau concrit wedi’u castio ymlaen llaw, goleuadau stryd, llwybrau troed, rheiliau gwarchod a ffensys, yn ogystal â gosod wyneb newydd. Yn Heol Caerdydd, mae'r gwaith sy'n weddill yn cynnwys gosod goleuadau stryd, rheiliau gwarchod, ffensys a llwybrau troed, ynghyd â chwblhau wal hyfforddi. Bydd gwaith ar blatiau gorchuddio'r uniadau i'r bont ei hun hefyd yn cael ei gwblhau.

Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd y bont droed yn cael ei hailagor at ddefnydd y cyhoedd ym mis Chwefror 2024, gyda’r contractwr yn parhau â rhywfaint o waith y tu hwnt i hynny.

Ffordd i'w chau ddydd Sadwrn, 20 Ionawr

Mae angen cwblhau gwaith i dynnu system geblau catena gyda chraen ac felly mae angen cau ffordd yn Heol Caerdydd. Bydd hyn yn digwydd o 6am ddydd Sadwrn, 20 Ionawr, gan bara drwy'r dydd. Mae'n bosibl y bydd gwaith yn parhau ddydd Sul, 21 Ionawr, os oes angen. Mae trigolion a busnesau lleol wedi cael gwybod trwy lythyr, ac mae arwyddion wedi'u gosod.

Bydd y trefniadau'n debyg i'r rhai a oedd ar waith ar gyfer cau ffyrdd yr haf diwethaf. Bydd Heol Caerdydd yn cau o'r ffin ddeheuol o dŷ rhif 27 tua'r gogledd (130 metr) i'r gyffordd â ffordd ymuno'r A470. Mae map o'r ardal a fydd ar gau a llwybr amgen wedi'i gynnwys yma.

Mae llwybr amgen ar gyfer gyrwyr o ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau, ar hyd yr A4054 Heol Caerdydd, cylchfan Glan-bad, yr A470 tua'r gogledd a Chyfnewidfa Glyn-taf. O ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau, gwnewch yr un daith ond i'r cyfeiriad croes gan ddefnyddio'r A470 tua'r de. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i eiddo, ond fydd mynediad ddim ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r llwybr dargyfeirio i gerddwyr yn Heol Caerdydd.

Fydd dim modd i fysiau wasanaethu Rhydfelen a'r Ddraenen Wen, a byddan nhw'n dargyfeirio ar hyd yr A470 i'r ddau gyfeiriad. Bydd bws gwennol RHAD AC AM DDIM a weithredir gan Adventure Travel Ltd yn teithio o Erddi Glantaf yn Rhydfelen i 'The Pottery' yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Mae modd cysylltu â chwmni Adventure Travel Ltd drwy ffonio 02920 442040.

Bydd y bws gwennol yn cysylltu teithwyr gyda Gwasanaethau 120 a 132 er mwyn iddyn nhw barhau â'u taith i Gaerdydd, Caerffili, Pontypridd a Chwm Rhondda. Mae amserlen y bws gwennol ar gyfer dydd Sadwrn (a dydd Sul os oes angen) wedi'i chynnwys yma.

Yn y cyfamser, bydd gwasanaeth 102 ac 112 Adventure Travel Services yn gweithredu ar hyd Broadway, yr A470 i Tesco, Ystâd Ddiwydiannol Gellihirion, Heol Dynea, Stryd y Celyn, Heol y Dyffryn a Stryd y Dderwen – cyn dychwelyd i’w llwybrau arferol yn ôl i Tesco, yr A470, Glyn-taf a Phontypridd. Bydd gwasanaeth 104 yn gweithredu ar hyd Glyn-taf, yr A470 i Tesco, Ystâd Ddiwydiannol Gellihirion, Heol Dynea, Stryd y Celyn, Heol y Dyffryn, Maesfield Way, Gerddi Wordsworth a Stryd y Celyn, cyn ailymuno â'i llwybr arferol ar hyd Tesco, yr A470, Glyn-taf a Phontypridd.

Hoffai'r Cyngor estyn diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad parhaus wrth i wythnosau olaf y gwaith gael ei gyflawni. Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni yn rhan o raglen waith fawr ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf (2023/24), sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Wedi ei bostio ar 17/01/24