Skip to main content

Straeon Gofalwyr Maeth Rhondda Cynon Taf yn Dangos y Gall Pawb Gynnig Rhywbeth a Chefnogi Plant Mewn Gofal yng Nghymru

Foster Wales

Nod yr ymgyrch genedlaethol yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gydag awdurdod lleol.

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Ar hyn o bryd mae 368 o blant mewn gofal maeth cyngor lleol yn RhCT, ond mae angen 163 o gartrefi maeth eraill arnom.

Wythnos yma, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.

Mae Maethu Cymru RhCT wedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘gall pawb gynnig rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

  •  Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  •  Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  •  Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.

“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd”

Clywch gan ein gofalwyr maeth, Tracy a Lee:

Mae Tracy a Lee wedi bod yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru RhCT ers dros 20 mlynedd. Mae’n ddiogel dweud bod ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth am faethu, ac mae’r ddau ohonyn nhw’n ofalwyr arloesol – rôl gofalwr maeth sy’n cefnogi gofalwyr eraill.

"Mae bod yn hyblyg yn hanfodol i rôl gofalwr maeth. Y gallu i roi gofal i ystod o wahanol blant a phobl ifanc sydd i gyd yn unigolion, ag anghenion gwahanol. Rydych chi'n gwisgo llawer o hetiau fel gofalwr maeth, ac weithiau mae'r gallu i estyn allan a gofyn am gefnogaeth, neu ofyn cwestiynau yn sgil sy'n cael ei hanwybyddu, ond yn un sy'n hynod bwysig.

"Rydyn ni wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd, ac rydyn ni wir yn teimlo ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Rydyn ni'n plannu'r hadau ac yn eu gwylio'n tyfu.

"I ni, mae’n fendith helpu’r bobl ifanc hyn i gyrraedd eu potensial a ffynnu mewn bywyd.”

Mae Cymru ar flaen y gad ym maes gwasanaethau plant

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Gwnaeth y newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.

Dyfyniad gan Annabel Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Plant RhCT

“Mae ein gofalwyr maeth awdurdod lleol gwych yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi plant yn RhCT. Trwy gynnig eu profiad bywyd, sgiliau, empathi a charedigrwydd, maent yn sicrhau bod y plant hyn yn teimlo'n ddiogel.

“Mae angen mwy arnom o bobl anhygoel yn ein hardal i faethu, gan sicrhau bod pob plentyn lleol yn cael cartref croesawgar, a’r gofalwr maeth cywir ar eu cyfer.

“Pan fyddwch chi'n maethu gyda Maethu Cymru RhCT, bydd gennych chi rwydwaith arbenigol pwrpasol o'ch cwmpas i sicrhau bod gennych chi chymorth lleol, yn ogystal â phecyn dysgu a datblygu gwych. Bydd ein tîm maethu, a gofalwyr maeth profiadol eraill, yn eich arwain ar eich taith faethu er mwyn i chi allu helpu plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol, a phopeth sydd ganddynt yn agos.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i ddod â’u sgiliau a’u profiad i’r bwrdd a chysylltu â Maethu Cymru RhCT.”

Dechreuodd yr ymgyrch ddydd Llun 8 Ionawr ar draws teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: www.rhct.maethucymru.llyw.cymru/

Am ragor o wybodaeth, cyfweliadau, neu geisiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: Jo Reeves, Joanna.reeves@rctcbc.gov.wales

Wedi ei bostio ar 11/01/2024