Skip to main content

Rhaglen atgyweirio wedi'i thargedu ar gyfer pont fawr yn Ystrad

Bodringallt Bridge grid - Copy

Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir i gyflwyno cynllun atgyweirio a gwella sylweddol ar gyfer Pont Bodringallt, y mae’r A4058 yn Ystrad yn mynd drosti. Disgwylir y bydd y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y brif ffordd a’r gymuned ehangach.

Bydd y cynllun yn llenwi'r gwagle o dan y bont, gan sicrhau na fydd dec y bont yn gweithredu fel elfen strwythurol mwyach. Bydd gwelliannau ychwanegol yn ailbroffilio llethr yr arglawdd, yn gosod system draenio priffordd, yn ail-baentio’r canllaw metel ac yn tynnu llystyfiant. Bydd y wal o waith maen a'r waliau ar yr ochrau yn cael eu hailbwyntio, tra bydd y wal orllewinol yn cael ei dymchwel a'i hailadeiladu.

Bydd y gwaith yn dechrau o ddydd Llun, 15 Ionawr, ac mae disgwyl iddo bara 12 wythnos i gyd. Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwr i gyflawni'r cynllun yma, sydd wedi'i ariannu gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor.

Mae’r A4058 Stryd William yn mynd ar hyd y bont, serch hynny, dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd angen cau lôn na ffordd – ond mae’n debygol y bydd y lonydd yn cael eu culhau i sicrhau diogelwch. Mae'r safle bws ger Heol y Twyn yn cael ei symud dros dro ar gyfer rhai elfennau o'r gwaith – dylai defnyddwyr bysiau ddilyn yr arwyddion perthnasol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r gwaith sydd ar y gweill i Bont Bodringallt wedi’i gynllunio i ddiogelu ei dec ar gyfer y dyfodol – tra bydd cyfres o atgyweiriadau ychwanegol i’r strwythur hefyd yn cael eu cyflawni. Mae’n bwysig nodi bod modd gwneud y gwaith heb gau ffordd na lôn ar yr A4058, a hynny er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.

“Y cynllun yma yn Ystrad yw’r diweddaraf i gael ei gyflawni drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd barhaus y Cyngor, sydd unwaith eto wedi clustnodi buddsoddiad mawr i atgyweirio a chynnal a chadw strwythurau allweddol – gyda’r Cyngor yn gyfrifol am fwy na 1,500 o waliau, cwlferi a phontydd yn cynnal rhwydwaith ffyrdd y Fwrdeistref Sirol. Cytunodd y Cabinet ar gyllid ychwanegol gwerth £2.5 miliwn yn y maes yma ym mis Medi 2023, gan ychwanegu at y dyraniad gwerth £7.9 miliwn a wnaed eisoes ar gyfer 2023/24.

“Mae’r cyllid yma gan y Cyngor ar gyfer strwythurau ar wahân i’r rhaglen sylweddol o waith atgyweirio o ganlyniad i Storm Dennis sy’n cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol yma – gan gynnwys rhai prosiectau mawr megis Pont Castle Inn yn Nhrefforest, y Bont Wen ym Mhontypridd a Phont Droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail.

“Hoffwn ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd ymlaen llaw am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd i ddod i Bont Bodringallt. Bydd y ffordd yn cael ei chulhau er mwyn cynnal y cynllun, tra bydd angen trefniadau dros dro ar gyfer safle bws gerllaw ar adegau. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r contractwr i symud y cynllun yma yn ei flaen mor effeithlon â phosibl yn yr wythnosau nesaf.”

Wedi ei bostio ar 12/01/24